Mater - penderfyniadau

Action Tracking

30/10/2018 - Action Tracking

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.   Roedd hyn yn ddull adrodd a oedd yn effeithiol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y ceisiadau ailadroddus am gopi o’r adroddiad arolwg ar Bont Sir y Fflint a'i effaith ar 'lwybr coch' arfaethedig priffyrdd, oedd heb ei rannu hyd yma.   Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd canfyddiadau'r adroddiad yn cyflwyno unrhyw risg ariannol i'r Cyngor a byddai'n cael ei ddosbarthu i unrhyw Aelodau sy'n mynegi diddordeb.   Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ar wariant cyfalaf ar gyfer y llwybr priffyrdd a mabwysiadu Pont Sir y Fflint fel rhan o rwydwaith y cefnffyrdd gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n gwaredu unrhyw atebolrwydd ar gyfer y Cyngor yn y  dyfodol.   Ar Gynnig Twf Gogledd Cymru, byddai’r ddogfen gynnig ddrafft yn cael ei thrafod yn y cyfarfod rhanbarthol y diwrnod canlynol, fodd bynnag,  pwysleisiodd nad oedd yr A494 yn y cynnig hwnnw ac yn rhagflaenu hynny.

 

Wrth groesawu’r adroddiad Olrhain Gweithred, awgrymodd y Cynghorydd Jones bod gweithredoedd yn y dyfodol yn cynnwys terfynau amser cwblhau.   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellir datblygu’r fformat dros amser ac y byddai’r ymagwedd yn cael ei hymestyn i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill yn dilyn cyfnod prawf o chwe mis, fel y cytunwyd gan yr Arweinwyr Gr?p.

 

Fel diweddariad o’r drafodaeth o’r cyfarfod blaenorol, eglurodd y Prif Weithredwr y sefyllfa ffurfiol a gymerir gan y Cyngor sy'n cynnwys dwy weithred allweddol, a oedd wedi derbyn cefnogaeth yng ngweithdy'r Aelodau yn ddiweddar.   Yn gyntaf, roedd y Cyngor wedi cyfrannu at achos ar y cyd a gyflwynir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran holl gynghorau Cymru i LlC ar gyfer cynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw.   Yn ogystal â hyn, byddai’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Cyllid i bwysleisio disgwyliadau penodol y Cyngor am isafswn o 3% o gynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw neu 4% o gynnydd os nad oedd cost cyflog ychwanegol athrawon yn cael ei ariannu ar wahân.

 

Gan fod yr Aelodau wedi derbyn copi o sylwadau ysgrifenedig am brydlondeb grantiau, awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylai’r Pwyllgor gyflwyno ei sylwadau ei hun i LlC i dynnu sylw at gostau lleoliadau y tu allan i’r sir fel mater cenedlaethol.   Siaradodd y Cynghorydd Shotton i gefnogi bod y Pwyllgor yn cyflwyno ymateb ar wahân i ategu at yr ymateb ffurfiol gan y Cabinet.   Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y trafodaethau cyllidebol sydd i ddod ac awgrymu efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cyflwyno sylwadau yn hwyrach yn y broses pan fo’r Aelodau yn fodlon bod yr holl ddewisiadau wedi'u cyflawni i gytbwyso'r gyllideb heb risg.   Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dull ‘olrhain gweithred’ yn cael ei gymeradwyo am gyfnod prawf o chwe mis gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.