Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy (MTFS) - Forecast 2019/20

06/11/2018 - Medium Term Financial Strategy (MTFS) - Forecast 2019/20

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad o’r Rhagolwg Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) - 2019/20 sef yr adroddiad cyntaf yn amlinellu’r darlun ariannol ar gyfer 2019/20.

 

Cynhaliwyd dau Weithdy Cyllideb i Aelodau ym mis Gorffennaf ac un ym mis Medi lle derbyniodd yr Aelodau wybodaeth diweddar ar y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf yn nghyd-destun y darlun cenedlaethol.

 

Byddai’r Cyngor angen adnabod arbedion effeithlonrwydd o £13.7m i fantoli’r gyllideb ar gyfer 2019/20, ac angen £13.1m ar sail reolaidd.  Mae’r atebion cyllideb strategol wedi eu datblygu yn y tri maes o atebion corfforaethol, gwasanaeth a chenedlaethol ac wedi’u crynhoi yn Nhabl 3 o’r adroddiad.

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLLC) yn gweithio gyda’r holl 22 Cynghorau yng Nghymru i wneud achos i Lywodraeth Cymru (LlC) am ymgodiad mewn Grant Cynnal Refeniw (GCR) i gwrdd ag anghenion cyllido critigol.   Ar ôl cymryd yr arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u hadnabod hyd yma i ystyriaeth, a gyda amcangyfrif o gynnydd Treth y Cyngor hapfasnachol yn 4.5%, bydd y Cyngor angen o leiaf cynnydd o 3% yn ei GCR.  Gall hynny godi i amcangyfrif o 4% er mwyn gallu cwrdd â’r diffyg disgwyliedig mewn cyllid ar gyfer dyfarniad cyflog ychwanegol i athrawon a chostau pensiwn.

 

Pwysleisiodd y risgiau yn gysylltiedig â dyfarniad cyflog i athrawon a fyddai’n golygu £1.9m ychwanegol i’r rhagolwg, sydd heb ei gynnwys ar hyn o bryd gan y dylai fod yn bwysau cost sy'n cael ei ariannu'n genedlaethol.   Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar y dylai fod cyllid ar gael i Gymru i gwrdd â chostau’r dyfarniad cyflog yn 2018/2019, fodd bynnag amcangyfrifir mai dim ond hanner yr amcan gostau y byddai hynny'n ei dalu amdano.   Roedd trafodaeth barhaus gyda LlC ar ariannu'r costau yn weddill. 

           

Yn ogystal roedd tebygrwydd y gallai cyfraniadau cyflogwr i bensiwn athrawon godi yn sylweddol yn 2019/20 a fyddai'n cael effaith sylweddol pellach ar gostau.  Gall y cynnydd fod hyd at 7% a fyddai’n golygu pwysau sylweddol.  Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn edrych am ateb i ariannu’r pwysau o 2020/21 fodd bynnag byddai hynny’n golygu bwlch posib o 7 mis ar ôl lle byddai angen cyllid.

 

Byddai Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro yn cael ei dderbyn ar 9 Hydref gyda’r Setliad terfynol ar 19 Rhagfyr. Mae dyddiad Datganiad Yr Hydref y Canghellor ar fin cael ei gyhoeddi ond i’w ddisgwyl ym mis Rhagfyr.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn am y wybodaeth wedi’i gynnwys yn y tablau yn yr adroddiad ar fwlch rhagamcanol, pwysau wedi'i gynnwys yn y rhagolwg ac atebion cyllideb strategol.

 

Mynegodd aelodau eu pryderon ar y risgiau yn ymwneud  â dyfarniad cyflog athrawon a chyfraniadau cyflogwr i bensiwn athrawon, gan wneud sylwadau y dylai achosion o’r fath gael eu hariannu yn genedlaethol ac nid yn lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton am gyfanswm y gwaith a wnaed i adnabod yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, doedd yr atebion lleol hynny ddim yn ddigon ac roedd angen atebion cenedlaethol.  Meddai y byddai’n fethiant gan Lywodraeth y DU os na fyddai’n cwrdd â’r dyfarniad cyflog athrawon yn llawn ac yr oedd yn gobeithio y byddai’r llywodraeth yn gwrando ar safiad yr holl awdurdodau lleol ar y cyd.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y manylion o fewn y rhagolwg a'r ystod o atebion o fewn terfynau yn cael eu nodi, a'r achos i Lywodraeth Cymru gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gefnogi.