Mater - penderfyniadau

School Holiday Enrichment Programme

12/12/2018 - School Holiday Enrichment Programme

Cyflwynodd y Prif Swyddog Claire Sinnott, Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) a gyflwynodd adroddiad ar yr ystod o weithgareddau a gynhaliwyd drwy’r Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol.

 

Roedd y cynllun yn cynnwys darparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol a sesiynau cyfoethogi i ddisgyblion mewn dwy ysgol yn Sir y Fflint am 12 diwrnod yn ystod gwyliau'r haf.  Cyflwynwyd y rhaglen mewn nifer o gynghorau yng Nghymru yn dilyn adborth o gynllun peilot, a chafodd ei gyllido’n rhannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Rhannwyd gwybodaeth am y dull o ddarparu yn Sir y Fflint a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y gr?p llywio. Dyma’r tro cyntaf i'r cynllun gael ei weithredu yn Sir y Fflint ac adroddwyd deilliannau cadarnhaol o'r ddwy ysgol a gymerodd ran - Ysgol Treffynnon ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant. Roedd y gweithgareddau coginio yn arbennig o boblogaidd ymysg y disgyblion ac amlygwyd hyn fel sgil allweddol ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Anfonwyd holl ymatebion i’r ffurflenni gwerthuso a gwblhawyd gan ddisgyblion a rhieni yn Sir y Fflint i CLlLC ar gyfer eu dadansoddi, ynghyd â’r rhai o awdurdodau eraill.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Roberts y swyddog ar lwyddiant y rhaglen yr oedd yn dyst iddo ar ôl mynychu'r ddwy ysgol.

 

Cafodd y fenter ganmoliaeth gan David Hÿtch, a awgrymodd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu i ddiolch i’r busnesau lleol a gefnogodd y rhaglen. Mewn ymateb i’r sylwadau ar lefelau presenoldeb y cynllun yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, eglurwyd bod gan ddisgyblion fynediad at fys mini trwy gydol y rhaglen. O ran marchnata, roedd cydnabyddiaeth bod presenoldeb cynyddol ar gyfryngau cymdeithasol yn bwysig, ynghyd ag ymgysylltu'n gynnar gyda rhieni a busnesau lleol.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Heesom, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu y byddai copi o adroddiad dadansoddi CLlLC ar y canfyddiadau cenedlaethol yn cael ei rannu gydag Aelodau. Disgwylid ei dderbyn erbyn diwedd mis Tachwedd, ynghyd â manylion meini prawf cymhwyso ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf.

 

Teimlai’r Cynghorydd White y byddai’n ddefnyddiol i’r dadansoddiad gynnwys adborth gan y ddwy ysgol am y ffordd yr oedd cyfranogwyr y rhaglen o Flwyddyn 6 wedi trosglwyddo i'w hysgol newydd, o’i gymharu â’r rhai nad oedd yn rhan o'r rhaglen.

 

Mynegodd y Prif Swyddog ei gwerthfawrogiad i Claire Sinnott am ei brwdfrydedd wrth gydlynu gweithgareddau’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo gwaith y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol 2018 a'r cynnydd a wnaed;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen yn yr awdurdod yn 2019 a thu hwnt; a

 

 (c)      Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i ddiolch i fusnesau lleol a ddarparodd fwyd a chefnogaeth i’r rhaglen a’r staff a roddodd o’u hamser.