Mater - penderfyniadau

Annual Review of Strategic Risks

10/01/2019 - Annual Review of Strategic Risks

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddatganiad sefyllfa blynyddol ar y risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18.  Roedd hyn er mwyn sicrhau'r Pwyllgor fod y lefelau risg o dan reolaeth y Cyngor yn symud mewn cyfeiriad cadarnhaol ac yn cael eu rheoli’n llwyddiannus.

 

Adroddwyd bod y 48 o risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor wedi eu rheoli'n llwyddiannus, gyda'r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel rhai mân / ansylweddol neu gymedrol, oedd yn sefyllfa well na’r asesiad risg cychwynnol.  Nid oedd y proffil risg wedi newid llawer dros y cyfnod gyda 12 o risgiau mawr (coch) yn parhau, a llawer o’r rheiny yn ddibynnol ar ffactorau allanol.  Yn ystod crynodeb o’r risgiau coch, adroddwyd am gynnydd da ar waith oedd yn cael ei wneud i wella amseru Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.  O ran argaeledd gwelyau gofal cartref nyrsio a phreswyl, gobeithiwyd y byddai ymestyn Marleyfield yn effeithio’n gadarnhaol ar y statws risg.    Byddai angen cael gwybodaeth gan y Cynllun Datblygu Lleol yngl?n â pharu lleoedd ysgolion gyda demograffeg sy’n newid.  Er mwyn cwrdd yr her ariannol, roedd gweithdai cyllido wedi eu trefnu er mwyn ystyried amrywiaeth o opsiynau er mwyn cydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20, fodd bynnag roedd hyn yn ddibynnol ar setliad ariannol cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r statws ar gyfer crynodeb diwedd blwyddyn 2017/18 o risgiau strategol blaenoriaethau’r Cyngor; yn cymeradwyo rheolaeth lwyddiannus y risgiau, lle mae’r rhain yn cael eu rheoli gan y Cyngor.