Mater - penderfyniadau

REVENUE BUDGET MONITORING 2018/19 (MONTH 8)

27/02/2019 - 2018/19 Revenue Budget Monitoring (Month 8)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r

gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw

Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried ar 18 Rhagfyr 2018. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os oedd popeth yn dal yr un fath.

 

 Roedd Cronfa’r Cyngor fwy neu lai yn unol â’r targed gyda gwarged o £0.026m oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.351m o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y prif newidiadau’n gysylltiedig â dyraniad y Cyngor o grant untro o £0.611m o arian Cefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru  yn ystod 2018/19 i’w ddefnyddio i’r dibenion a nodwyd ym mharagraff 1.04.  Roedd y cynnydd mewn costau Strydlun a Chludiant yn deillio o’r angen am gludiant ysgol ychwanegol.

 

Amcangyfrifwyd y byddai 97% neu £5.326m o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

O ran tâl athrawon, roedd cadarnhad wedi’i dderbyn ynghylch cyfraniad ariannol 2018/19 o £0.784m i’w drosglwyddo’n llawn i ysgolion unwaith y byddai’n cael ei dderbyn. Tra bod hyn yn talu’n fras am y costau cynyddol ar gyfer 2018/19, nid oedd y Setliad Terfynol yn newid y sefyllfa flaenorol oedd yn caniatáu i’r Cyngor ychwanegu 1% at gyllid sylfaen ysgolion, sy’n golygu y byddai angen i ysgolion rannu effaith y costau ar gyfer 2019/20.

 

Amcangyfrifwyd mai’r balans ar Gronfeydd wrth Gefn ar ddiwedd y flwyddyn oedd £7.689m, fodd bynnag ar ôl defnyddio £1.900m i gau’r bwrdd cyllidebol fel y cytunwyd fel rhan o ddatrysiadau cyllideb Cam 1, cyfanswm y balans ar gael fyddai £5.789m.

 

O ran yr HRA, byddai tanwariant rhagamcanedig o £0.067m yn gadael balans o £1.165m, oedd yn 3.4% o gyfanswm y gwariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd at y gorwariant rhagamcanedig ar Leoliadau y Tu  Allan i’r Sir a fyddai wedi cynyddu ymhellach heb y grant a roddwyd gan LlC. Mewn ymateb i ymholiadau, rhoddwyd eglurhad ar y meini prawf llym ar gyfer arian grant a’r angen i ddangos eu bod yn cyd-fynd a’r blaenoriaethau hynny.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom ynghylch maint a chapasiti cronfeydd heb eu clustnodi a ph’un ai y gellid eu defnyddio tuag at y bwlch cyllidebol os nad oedd eu hangen. Mewn ymateb, tynnwyd sylw at yr adroddiad diweddaraf i’r Cabinet yn manylu ar sefyllfa bresennol cronfeydd wrth gefn a barn y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, fel Swyddog statudol Adran 151, am eu defnydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar 22 Ionawr ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 22 2018/19 (Mis 8) ac yn cadarnhau nad oes unrhyw bryderon y mae'n awyddus i’w codi yn y Cabinet y mis hwn.