Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 7)
20/02/2019 - Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 7)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 7), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa’r flwyddyn ariannol, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7, os nad oedd unrhyw newidiadau.
Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £0.325 miliwn (£0.222 miliwn ym Mis 6); a
· Balans disgwyliedig yn y gronfa at raid ar 31 Mawrth 2019 o £7.347 miliwn a ostyngodd i £5.447 miliwn wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £67,000 yn is na’r gyllideb; a
· Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; gwasanaethau anableddau – cyfraniadau iechyd; cyfraniadau cyflogwr i'r Gronfa Bensiynau; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion – risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.
Ar wahân i’r wybodaeth a nodir yng nghofnod rhif 274 (gwybodaeth am Leoliadau y Tu Allan i'r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn), nid oedd unrhyw sylwadau eraill gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w hadrodd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a
(b) Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.