Mater - penderfyniadau

Update on the Management of the Homeless Legislation Within the Housing (Wales) Act 2014

17/10/2018 - Update on the Management of the Homeless Legislation Within the Housing (Wales) Act 2014

            Cyflwynodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid adroddiad oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r modd yr aethpwyd ati i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014, ynghyd â rhai o’r heriau i’r Cyngor oedd ar y gorwel.

 

            Yn 2017/18 bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd a ddaeth at y Cyngor mewn perygl o ddigartrefedd, a defnyddiwyd mwy o lety dros dro.  Roedd y Cyngor yn ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac wedi gweithio i gynllunio gwasanaethau a defnyddio grantiau i liniaru ar y perygl o gostau llety dros dro yn cynyddu, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Roedd y Tîm Dewisiadau Tai’n canolbwyntio lle bo modd ar atal digartrefedd a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, ac er mwyn sicrhau canlyniadau da yn hynny o beth, roedd ar y gwasanaeth angen cyflenwad o ddewisiadau tai oedd yn fforddiadwy ac y gellid eu darparu i aelwydydd oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.  Amlygwyd prinder y dewisiadau oedd ar gael fel problem gynyddol yn Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint, a byddai hynny’n ganolog i’r cynllun gweithredu a’r prosiectau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Manylodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau’r oedd y Cyngor yn eu hwynebu, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Y Gofrestr Tai Cymdeithasol;

·         Cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael yn y sector rhentu preifat;

·         Llety Dros Dro;

·         Atal Cysgu ar y Stryd;

·         Aelwydydd Un Aelod; a

·         Phobl Ddiamddiffyn a Phobl ag Anghenion Cymhleth.

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod Penaethiaid Tai pob yn o’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wedi cwrdd â Sefydliad Tai Siartredig Cymru fis Mehefin 2016, a bod pawb wedi ymrwymo i gydweithio wrth ddatblygu strategaeth digartrefedd ranbarthol.  Hysbysid y Cabinet o’r dull strategol a grybwyllwyd yn yr adroddiad ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, gan fod pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru’n llunio'i gynllun gweithredu lleol ei hun ar sail blaenoriaethau’r strategaeth ranbarthol.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod angen cynyddu nifer y cartrefi oedd ar gael yn y Sector Rhentu Preifat, gan ddweud y dylai’r Cyngor fod yn ymwybodol o’r gwaith adeiladu ar gyfer y Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a allai gael effaith negyddol ar lety yn y sector rhentu preifat, os nad oedd digon ar gael ar Ynys Môn ac yng Nghonwy.  Dywedodd ei bod yn hanfodol dal ati i adeiladu tai ledled Sir y Fflint drwy’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), gan fod y Cyngor yn un o’r Awdurdodau Lleol prin hynny oedd yn adeiladu tai cymdeithasol newydd.     

 

            Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai fod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad yn y bore, ond y gallai fynd ag unrhyw sylwadau gan yr Aelodau yn ystod y cyfarfod yn ôl i’r Cabinet fel y gellid eu hystyried.  Dywedodd fod y Cyngor yn medru darparu llety dros dro i bobl ddigartref, ond roedd hi’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dal i ddarparu cyllid er mwyn sicrhau y gellir dal i ddefnyddio llety dros dro.   

           

            Croesawodd y Cadeirydd y ffaith na ddefnyddiwyd cymaint o lety gwely a brecwast.  Adleisiodd y Cynghorydd George Hardcastle y sylwadau hynny gan longyfarch y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid a’i thîm am sicrhau’r gostyngiad hwnnw.     

 

            Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton bryderon yngl?n â’r ffaith fod 39% yn fwy o bobl wedi dod at y Cyngor yn ddigartref oherwydd newidiadau yn y gyfundrefn les, ac yngl?n ag astudiaeth ddiweddar a ddangosodd fod 75% o denantiaid mewn dyledion oherwydd cyflwyno’r Credyd Cynhwysol.  Croesawodd y gwaith yr oedd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid a’i thîm yn ei wneud i liniaru ar yr heriau hynny, a holodd faint o landlordiaid preifat yn Sir y Fflint oedd wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru.  Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai fod yr Hwylusydd yn cysylltu â’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i gael ymateb yngl?n â nifer y landlordiaid oedd wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog na châi tenantiaid eu rhoi mewn llety preifat ond pan oedd y landlordiaid wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei fod yn croesawu’r adroddiad cynhwysfawr a oedd yn ei farn ef yn ymdrin â’r materion oedd wedi achosi’r cynnydd yn nifer y bobl oedd yn dod at y Cyngor mewn perygl o ddigartrefedd.  Cyfeiriodd at sylwadau’r Prif Swyddog yngl?n â diogelu dyfodol SHARP, a oedd yn hanfodol bwysig yn ei farn ef, a sicrhau cyflenwad priodol o dai fforddiadwy, ond cododd bryderon yngl?n â datblygwyr yn dod o hyd i ffyrdd o fedru darparu llai o dai fforddiadwy nag oedd angen drwy gyflwyno nifer o geisiadau datblygu ar wahân ar gyfer yr un safleoedd.  Dywedodd fod angen i’r Cyngor feithrin perthynas waith agosach â landlordiaid preifat, a gofynnodd am sicrwydd y cyflwynid y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol cyn i’r Cabinet ei chymeradwyo.

 

            Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai sicrwydd i’r Pwyllgor y cyflwynid y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol i’r Pwyllgor Craffu cyn i’r Cabinet ei mabwysiadu.  Dywedodd ei fod yn cytuno â’r sylwadau yngl?n â meithrin cysylltiadau gwaith agosach â landlordiaid preifat, gan sôn ei fod ef a’r Prif Swyddog yn gweithio ar ddatblygu'r Fforwm Landlordiaid ymhellach.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â’r Gwasanaeth Brysbennu, esboniodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod y Cyngor yn trin pob ymgeisydd yr un fath, ac wrth anfon llythyrau at ymgeiswyr yn darparu manylion y drefn apelio iddynt.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin â’r sylwadau blaenorol, gan ddweud fod angen i’r Cyngor ganolbwyntio ar SHARP.  Cyfeiriodd at eiddo ‘anodd ei osod’ yn ei ward hi, gan awgrymu y gellid eu hail-lunio yn dai ag un neu ddwy ystafell wely, gan mai am y rheiny’r oedd y galw mwyaf.  Cytunodd y Prif Swyddog â’r awgrym hwnnw a soniodd am y materion oedd wedi codi ers cyflwyno’r 'dreth ystafell wely'  Soniodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai fod yno hefyd brinder o gartrefi mwy o faint mewn rhai ardaloedd o’r Sir, a dywedodd fod angen datblygiadau tai fforddiadwy ymhob cymuned yn Sir y Fflint.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y cynnydd mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ledled Sir y Fflint, a mynegodd bryderon yngl?n â landlordiaid preifat yn lletya 5 neu 6 o bobl heb dalu Treth y Cyngor ond am un eiddo.  Dywedodd fod angen mynd i’r afael â hynny.  Awgrymodd hefyd fod angen i’r Cyngor weithio’n agosach â’r cwmnïau datblygu rhyngwladol er mwyn sicrhau datblygiadau mawr o dai fforddiadwy.  Dywedodd y Prif Swyddog fod Waites, a oedd yn gweithredu’r cynllun SHARP, yn gwmni datblygu cenedlaethol, ond ei bod hefyd yn bwysig cydnabod y cyfraniad gan gwmnïau datblygu llai o faint oedd yn adeiladu cartrefi da.                              

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi'r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â rheoli'r ddeddfwriaeth newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014;

 

 (b)      Cydnabod y themâu oedd yn dod i’r amlwg yn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol, a’r heriau’r oedd y Cyngor wedi’u hwynebu wrth ddod o hyd i ddewisiadau tai addas ar gyfer preswylwyr, a chefnogi’r cynlluniau ar gyfer lliniaru ar unrhyw risgiau pellach;

 

 (c)       Cymeradwyo’r cynigion i leihau digartrefedd yn y sir; a

 

 (ch)    Bod y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol a’r Cynllun Gweithredu yn dod gerbron y Pwyllgor i’w ystyried yn y dyfodol, cyn i’r Cabinet ei mabwysiadu.