Mater - penderfyniadau

Council Plan 2018/19 – changes from 2017/18

30/10/2018 - Council Plan 2018/19 – changes from 2017/18

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau i Gynllun y Cyngor a wnaed rhwng y blynyddoedd.   Roedd manylion llawn y newidiadau wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

 Ceisiodd y Cynghorydd Jones sicrwydd bod y mesuryddion / targedau oedd wedi'u tynnu wedi bod yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol i roi cyfle iddynt asesu'r rhesymau cyn cyflwyno Cynllun terfynol y Cyngor i'r Cyngor Sir.   Dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn penderfynu sut mae arian yn cael ei wario felly roedd angen mwy o eglurder ar y newid i’r mesuryddion.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y manylion hyn wedi’u cynnwys yn nogfen Rhan 2 a oedd yn tanategu Cynllun y Cyngor.   Dywedodd bod swm sylweddol o ddata perfformiad ar gael ac efallai y dylid ystyried bod pwyllgorau yn dewis eu meysydd penodol o ddata perfformiad i’w cynorthwyo i gyflawni eu rôl yn effeithiol fel ffordd ymlaen.   Gallai hyn fod yn ganolbwynt ar gyfer gwaith yn y dyfodol gan gynnwys cyflwyno mwy o fesuryddion lleol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Mullin am lefel y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r adroddiad gydag adnoddau cyfyngedig, a nododd bod rhai newidiadau yn deillio o faterion yn dod i gasgliad naturiol.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Woolley ar adnoddau cyfyngedig yn effeithio ar y gallu i gynllunio, nododd y Prif Weithredwr er bo rhai meysydd yn seiliedig ar adnoddau sy'n hysbys, roedd cynaliadwyedd eraill y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn fwy o risg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones bod eitem yn cael ei chynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf bod y Pwyllgor yn derbyn taenlen yn dangos cysylltiadau rhwng cyllidebau, llywodraethu, perfformiad ac ati.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y newidiadau i Gynllun y Cyngor rhwng 2017/18 a 2018/19 yn cael eu nodi a diolch i’r swyddogion am gynhyrchu’r dadansoddiad; a

 

(b)       Sicrhau bod yr ystod lawn o fesuryddion perfformiad ar gael i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol i roi cyfle iddynt ddewis meysydd adrodd rheolaidd.