Mater - penderfyniadau
Revenue consequences of major capital programme investments
09/10/2018 - Revenue consequences of major capital programme investments
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a darparodd gyflwyniad ar ganlyniadau refeniw buddsoddiadau mawr y rhaglen gyfalaf. Roedd hyn yn ategu at y model a groesawyd mewn cyfarfod blaenorol. Y prif gynlluniau buddsoddi a nodwyd yn y cyflwyniad oedd:
- effeithiau gwariant cyfalaf ar refeniw
- Cynllun 1 – Cartref Gofal Marleyfield
- Cynllun 2 – Cartref Gofal Dydd Glanrafon
- Cynllun 3- Theatr Clwyd
- Cynllun 4 – NWRWTP (Parc Adfer)
- Cynllun 5- adleoli i Unity House, Ewlo.
- Cynllun 6 – Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion – Ysgol Penyffordd
Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion - Ysgol Uwchradd Cei Connah
- Estyniad ac ailfodelu ysgol
- Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
- Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion
Nododd y Cynghorydd Richard Jones bod angen penderfynu ar effaith y rhaglenni cyfalaf ac awgrymodd y dylid cynnal asesiad o effaith i ddangos y buddion. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwynt a wnaed. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones hefyd at gost dymchwel Neuadd y Sir – camau 3-4 a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei ariannu.
Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom am werth pensaernïol Neuadd y Sir a nododd y dylid amddiffyn yr adeilad. Nododd bod yr Wyddgrug yn leoliad da ac yr hoffai gadw’r gwasanaethau yn Neuadd y Sir. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod symud i Unity House, Ewlo yn adleoliad rhannol gan nad oedd gan yr adeilad ddigon o le ar gyfer yr holl staff na'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu. Eglurodd y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal yn hirdymor o ran datblygu safle campws Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Roedd campws Neuadd y Sir yn hen, yn ddrud i’w gynnal ac nid oedd yn addas i bwrpas ar gyfer gofod swyddfa gyfoes bellach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi a chroesawu’r adroddiad.