Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Environment)
21/03/2019 - Forward Work Programme (Environment)
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd y Rhaglen Waith i'r Dyfodol er ystyriaeth. Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 11 Rhagfyr 2018. Cytunwyd y byddai'r eitem ar Bwyntiau Gwefru Ceir Electronig yn cael ei gohirio i'w hystyried yn un o gyfarfodydd nesaf y Pwyllgor.
Awgrymodd y Cynghorydd Joe Johnson y dylid cynnal gweithdy ar wastraff ailgylchadwy. Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y dylid trefnu sesiwn wybodaeth fer i'r Pwyllgor cyn dechrau un o'r cyfarfodydd nesaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid diwygio'r Rhaglen Waith i'r Dyfodol; a
(b) Y dylid awdurdodi'r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd pan fydd angen.