Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Social & Health Care)
30/08/2019 - Forward Work Programme (Social & Health Care)
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai adroddiad ar Argyfwng Gofal Iechyd Parhaus yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf a fyddai’n cael ei gynnal ar 18 Gorffennaf. Dywedodd y byddai dolen i’r ymgynghoriad ar Ofal Iechyd Parhaus yn cael ei anfon i’r Pwyllgor cyn hynny.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr eitem am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y GIG a oedd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf a dywedodd fod y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wedi awgrymu y gallai’r Pwyllgor wahodd Ysbyty Iarlles Caer i fynychu’r cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. Gofynnwyd i’r aelodau anfon cwestiynau i Hwylusydd Cymdeithasol ac Iechyd BIPBC ac Ysbyty Iarlles Caer cyn y cyfarfod.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Christine Jones fe gytunwyd bod cyflwyniad gan Reolwr Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei gynnwys ar Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod Ysbyty Iarlles Caer yn cael ei wahodd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Gorffennaf 2019.