Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
15/08/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried.Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ar 1 Gorffennaf 2019 ac atgoffodd yr Aelodau, yn dilyn awgrym yn y cyfarfod diwethaf, y cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitem ar Bwll Nofio Cei Connah - Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19. Eglurodd y penderfynwyd trefnu cyfarfod gyda gr?p craidd o Aelodau a chynrychiolwyr Cambrian Aquatics ddiwedd mis Mai ac adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor.
Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid ystyried yr eitemau canlynol yn ystod cyfarfodydd i ddod oherwydd y posibilrwydd o Fodelau Darparu Amgen / trefniadau cydweithio newydd.
· Theatr Clwyd
· Gofal Cymdeithasol
· Gwasanaethau Stryd a’r Gwasanaeth Masnachol Tai
· TCC – Cydweithio gyda Chyngor Wrecsam
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.