Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme (Education & Youth)

15/08/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er ystyriaeth.   Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin ac yn dilyn cymeradwyo Amserlen Cyfarfodydd 2019/20 yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ym mis Mai 2019, roedd cyfarfodydd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol wedi eu cynnwys yn y Rhaglen.  

 

            Tynnodd yr Hwylusydd sylw at y cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 26 Medi gan ddweud y byddai canlyniad Arolygiad Estyn o Gyngor Sir y Fflint yn cael ei gynnwys er ystyriaeth.  Dywedodd hefyd bod yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2019 er mwyn rhoi gwybodaeth am waith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod, ar ôl cwblhau cynlluniau busnes y portffolio Addysg ac Ieuenctid, yn ymgysylltu â’r Cadeirydd er mwyn ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Dywedodd yr Hwylusydd ei bod wedi anfon e-bost at holl aelodau’r Pwyllgor yn eu gwahodd i ddod i weld yr ysgol newydd ym Mhenyffordd ddydd Mawrth 5 Mehefin. Gofynnodd i'r aelodau sy’n dymuno mynd ar yr ymweliad roi gwybod iddi cyn gynted a phosibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i newidiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad a Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.