Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
01/05/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Y byddai’r Cynllun Rheoli Asedau diwygiedig yn cael ei ail-amserlennu ar gyfer Chwarter 3.
· Y byddai’r Dangosfwrdd o Fesurau yn cael eu hystyried ym mis Ebrill (ar ôl y gweithdy ar 27 Mawrth)
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Flaenraglen Waith, fel y’i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; ac
(b) Y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn yr awdurdod i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng y cyfarfodydd, pe byddai angen.