Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
30/10/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Bod y cyfarfod ymgynghori ar y gyllideb Cam 1 a drefnwyd ar gyfer 5 Hydref 2018 ar ffurf gweithdy Aelodau yn benodol ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
· Mae’n debyg y byddai eitem Cynllun y Cyngor yn cael ei symud i gyfarfod mis Hydref.
· Mae’n debyg y byddai Adroddiad Blynyddol Cronfa Waddol Cymunedol yn cael ei symud i fis Tachwedd.
· Bod eitem ar gyfer Cynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei threfnu ar gyfer mis Tachwedd. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai dogfen ddrafft y cynnig yn cael ei dosbarthu i’r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod rhanbarthol a oedd yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaeth yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Sir ar Rybudd o Gynnig ar ymatebion swyddogion i'r Aelodau. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar ôl gorffen y gwaith.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chymeradwyo gyda’r diwygiadau a restrwyd uchod; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.