Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Community & Enterprise)
15/08/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried.Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys yr eitemau canlynol ar raglen y cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2019:
· Diweddariad ar Ddiwygio’r Gyfundrefn Les – Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol
· Adroddiad Monitro Chwarter 4/Diwedd y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19
· Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.
· Diweddariad ar Incwm Rhent Tai
· Cartrefi Unedol
Eglurodd yr Hwylusydd y byddai'n diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor yn 2019/2020 yn dilyn ystyried yr amserlen cyfarfodydd ddrafft yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ar 7 Mai. Dywedodd yr Hwylusydd y bydd adroddiad ar dracio camau gweithredu yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor yn dilyn y prosiect prawf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.Cytunwyd hefyd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar ddechrau cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.