Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme (Community & Enterprise)

25/06/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i’w ystyried.   Cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 1 Mai, gydag adroddiad ychwanegol ar Adfywio Canol Tref.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei awgrym blaenorol ar gyfer adroddiad ar Fesuryddion Deallus i’w gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor.    Dywedodd ei fod wedi derbyn pryderon gan nifer o drigolion am newid cyflenwyr ynni, gosod a darlleniadau mesurydd anghywir.    Awgrymodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i nodyn briffio ar osod mesuryddion deallus ac unrhyw heriau a brofwyd gael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor er gwybodaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei Ward ac awgrymodd bod angen adolygiad o Un Llwybr Mynediad at Dai.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod hwn wedi’i gynnal yn ddiweddar ac awgrymodd mai’r hyn oedd ei angen oedd adroddiad yn cynnwys rheoli tenantiaeth gyda phwyslais arbennig ar orfodaeth.    Cytunodd y Cynghorydd Hutchinson y byddai hyn yn ddefnyddiol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i'r angen godi.