Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
07/10/2019 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cafwyd cyflwyniad byr gan y Prif Swyddogion ar y gwasanaethau o fewn eu portffolios er mwyn helpu’r Pwyllgor i feddwl am eitemau i’w cynnwys ar yr agenda yn y dyfodol.
Awgrymwyd y pynciau canlynol:
· Rheoli Adeiladu – yn cynnwys effaith newidiadau yn y farchnad archwilio adeiladau ac edrych ar gyfleoedd pellach i gyflawni gwasanaethau i gynghorau eraill
· Systemau draenio cynaliadwy
· Gwasanaeth Cefn Gwlad
· Cynllunio Gwastraff a Mwynau – yn cynnwys darparu gwasanaethau allanol ar draws y rhanbarth
· Cysylltedd Digidol
· Thema ‘Cyngor Gwyrdd’ yng Nghynllun y Cyngor i gynnwys gwasanaethau ynni, paneli solar, golau stryd a phlastig
· Ymateb y Cyngor i’r agenda Newid Hinsawdd
· Menter/Adfywio Canol y Dref – yn cynnwys proses Ardal Gwella Busnes i’w drefnu ar gyfer dechrau 2020
· Parciau Batris – helpu i addysgu cymunedau ar yr effeithiau
· Fflyd trydaneiddio
· Darparu mynwentydd a’r strategaeth
· Adolygu gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf
· Gwasanaethau Masnachol
· Caniatáu gwastraff a llif data
· Canolfan Gyswllt
· Parcio ceir – costau, gorfodaeth a gwneud y mwyaf o incwm drwy drwsio peiriannau diffygiol yn brydlon
· Polisi codi tâl/mynegeio
· Safonau gwasanaeth
· Gorfodaeth
· Polisi torri gwair a pherfformiad (yn cynnwys ail-ddosbarthu’r safonau y cytunwyd arnynt) – yn cynnwys rheoli blodau gwyllt
· Effaith gwaith ffyrdd gan gwmnïau cyfleusterau
· Polisi cwrb isel ac arferion
· Biniau gwastraff gardd – maint, costau a’r posibilrwydd i ddarparu ail fin am ddim
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) i roi fersiwn diweddar i’r Aelodau o’r ddogfen drafft ‘Pwy ‘di Pwy’ ar ôl ei orffen yn derfynol. Awgrymodd y Cynghorydd Evans i’r ddogfen derfynol gynnwys mwy o rifau cyswllt defnyddiol os yw’r ddogfen yn mynd i fod ar gael i’r cyhoedd.
Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ddogfen dros dro nes bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hymgorffori yn y Ganolfan Gyswllt. Tynnodd sylw at bwynt y Cynghorydd Hughes am rannu rhifau ffôn symudol gwaith y swyddogion.
Meddai’r Cynghorydd Bibby y byddai dogfen debyg gyda manylion cyswllt portffolios eraill yn ddefnyddiol.
Dywedodd y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle am argaeledd swyddogion ac amseroedd ymateb. Eglurodd y Prif Swyddogion am fanteision rhif canolog y Ganolfan Gyswllt (701234) ar gyfer cofnodi galwadau a chymryd camau dilynol. Roedd opsiynau yn cael eu hystyried i leihau’r amser disgwyl i’ch galwad gael ei ateb, a byddai casgliad o wahanol dimau mewn un Canolfan Gyswllt corfforaethol yn Ewloe yn golygu gwell cymhwysedd. Cafodd aelodau lleol eu hatgoffa i adael i’w Cydlynwyr Ardal wybod am unrhyw achosion penodol ar y manylion cyswllt â rannwyd eisoes.
Dangosodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddogion am eu cyflwyniadau manwl a gofynnodd iddyn nhw ddiolch i’r tîm Strydwedd am eu gwaith yn helpu cymunedau yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar. Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hynny.
Yn ystod trafodaeth ar y pynciau a awgrymwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr angen i wasanaethau torri gwair i gael ei wneud gan nifer o dimau oherwydd yr amrywiaeth o offer sydd ei angen. Ar finiau gwastraff gardd fe eglurodd mai diben yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol oedd i sefydlu’r polisi mynegeio. Dywedodd y Cynghorydd Evans y dylai’r adroddiad fod wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor gyntaf.
Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y rhestr o bynciau yn cael eu hystyried gan y swyddogion, ar y cyd â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i gynnwys ystod o bynciau ar y cyd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Cafodd hynny ei gynnig gan y Cynghorydd Bibby a’i eilio gan y Cynghorydd Shotton.
PENDERFYNWYD:
(a) Diolch i’r swyddogion am eu cyflwyniadau ar eu portffolios;
(b) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(c) Bod y rhestr o bynciau a nodwyd yn ystod y cyfarfod yn cael eu dadansoddi gan y swyddogion i lunio ystod o bynciau ar y cyd, i’w ymgynghori gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd;
(d) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(e) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gwblhau’r camau gweithredu yn weddill.