Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

11/03/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd yr Hwyluswr Craffu a Throsolwg yr Amgylchedd y Flaenraglen Waith i’w hystyried.

 

Dywedodd yr Hwyluswr y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu ar y broses gorfodi amgylcheddol yng nghyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 27 Tachwedd.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin i gymariaethau costau’r gweithdai cyllideb gael eu darparu ar gyfer Parc Treftadaeth Greenfield Valley a Pharc Wepre.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi y byddai pob arbediad portffolio yn destun gweithdy cyllideb.  Cadarnhaodd yr hwyluswr y byddai’r dyddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai’r Pwyllgor gynnal cyfarfod arall ym Mharc Wepre a chytunodd y Pwyllgor i hynny.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Flaenraglen Waith yn cael ei diwygio;

 

(b)       Y byddai’r Hwyluswr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.