Mater - penderfyniadau
Flintshire Community Endowment Fund - Annual Report
10/01/2019 - Flintshire Community Endowment Fund - Annual Report
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a pherfformiad Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ionawr 2017. Cyflwynodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFIW) a roddodd gyflwyniad ar waith y Gronfa, yn ymwneud â’r canlynol:
· Sefydliad Cymunedol – y wybodaeth ddiweddaraf
· Hanes a Throsolwg o’r Gronfa
· Perfformiad Ariannol y Gronfa
· Crynodeb o ddyfarniadau grant a’r Gronfa ar gyfer 2018/19
· Astudiaethau achos
Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar Gronfa'r Degwm (WCAF) a oedd wedi trosglwyddo i’r CFIW, a sefydlu Cronfa Cymorth Eiddo Penarlâg a’r Rhanbarth. Yn ogystal â’r gwaith partneriaeth da rhwng y Cyngor, y CFIW a phreswylwyr Sir y Fflint, roedd cyfleoedd yn cael eu harchwilio i ddatblygu nifer o bartneriaethau newydd i elwa cymunedau lleol. Adolygir rheolwyr buddsoddi bob tair blynedd er mwyn cynorthwyo i gyflawni'r nod o gynyddu'r arian a datblygu buddsoddiad yn ddoeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Adroddwyd twf o 6.4% yn y Gronfa dros y 12 mis diwethaf er y nodwyd rhywfaint o risg gwyliadwrus ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. O’r cyfanswm o £25,682 o grantiau sydd ar gael ar gyfer 2018/19, roedd £6,779 wedi'i ddyfarnu hyd yn hyn. Y dull newydd oedd nodi dulliau o gynyddu amrywiaeth a gwneud cysylltiadau cryfach drwy fireinio meini prawf a chynyddu hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth a defnyddio cyllid yn well. Adlewyrchwyd hyn yn rhai o’r straeon a rannwyd o ran y grwpiau oedd wedi elwa.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd David Healey, eglurodd Mr. Williams bod unigolion a grwpiau yn gallu cyflwyno cais am gyllid grant. Cytunodd y byddai'n siarad gyda'r Cynghorydd Healey am yr enghraifft a roddodd. Eglurodd y Swyddog Gweithredol bod ffurflenni gwahanol ar gyfer unigolion a sefydliadau, ac roedd y ddwy ffurflen ar gael ar wefan y Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Heesom y cynnydd a adroddwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor; ac
(b) Y dylid diolch i Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, am ei bresenoldeb a’i gyfraniad yn y cyfarfod.