Mater - penderfyniadau

Workforce Information Report Quarter 1 2018/19

10/01/2019 - Workforce Information Report Quarter 1

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2018/19.

 

Roedd dadansoddiad ac ymarfer meincnodi manwl yn cael ei gyflawni i ddeall y rhesymau dros y gostyngiad mewn ffigyrau presenoldeb.   Er y gwnaed cynnydd da ar y gwerthusiadau perfformiad, roedd cyflawni’r targed o 100% yn parhau i fod yn flaenoriaeth.   Adroddwyd gwelliant ar lefel y gwariant ar weithwyr asiantaeth lle bo nifer y lleoliadau presennol wedi gostwng i 52.

 

Nododd y Cynghorydd Jones bod angen lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth hir dymor mewn rolau parhaol.   Eglurodd yr Uwch Reolwr bod mwyafrif yr unigolion hynny wedi derbyn cyflogaeth parhaol a bod disgwyl i’r gwasanaethau ryddhau’r rhai heb swyddi parhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd yn Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu Chwarter 1; a

 

(b)       Diolch i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad.