Mater - penderfyniadau

Flint Foreshore Regeneration

25/09/2018 - Flint Foreshore Regeneration

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Adfywio Blaendraeth y Fflint, a oedd yn argymell mynd ymlaen i’r cam nesaf o ddatblygu Astudiaeth Ddichonoldeb Blaendraeth y Fflint a’r gwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Celf Castell y Fflint. Roedd hynny’n cynnwys gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer y cyfleuster ar y cyd, a gosod darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint. Byddai unrhyw gynnydd yn amodol ar gydsyniad y partneriaid eraill yn y gwaith.

 

            Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) am y gwaith a wnaethpwyd ar gyfer y prosiect hwn, a fu’n heriol ar brydiau. Talodd y Cynghorydd Butler deyrnged hefyd i’r gwaith a wnaeth y Cynghorydd Roberts ar y prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y canfyddiadau yn yr adroddiad o ddichonolrwydd adfywio Blaendraeth y Fflint a bwrw ymlaen â’r gwaith manylach, gan gynnwys: dylunio a datblygu manwl, datblygu’r pecyn cyllid cyfalaf, a chynllunio busnes manwl; ac

 

 (b)      Derbyn y canfyddiadau yn adroddiad Ymchwil a Datblygu Celf Castell y Fflint, a bwrw ymlaen i ddatblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o’i gwmpas.