Mater - penderfyniadau
School Modernisation – School Standards and Organisation Act 2013 – Brynford and Lixwm Area School Review
25/09/2018 - School Modernisation – School Standards and Organisation Act 2013 – Brynford and Lixwm Area School Review
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a oedd yn gofyn i’r Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynnig statudol i newid trefniadaeth yr ysgol.
Dechreuodd yr adolygiad fis Mehefin 2015 pan roddwyd ystyriaeth i ad-drefnu’r ddarpariaeth mewn tair ysgol, sef Rhos Helyg, Brynffordd a Licswm, gan fod pwyntiau sbardun wedi’u cyrraedd yn ôl polisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Fis Rhagfyr 2016 penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen ag ymgynghoriad statudol yngl?n ag uno ysgolion Licswm a Brynffordd ar un safle, a gadael Rhos Helyg fel yr oedd hi.
Cyfarfu’r Cynghorydd Roberts â llywodraethwyr o Frynffordd a Licswm i glywed eu barn, yn ogystal â llywodraethwyr o Gilcain.Roedd llywodraethwyr Brynffordd o blaid uno, gan y gallai hynny ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Dymunai llywodraethwyr Licswm, fodd bynnag, greu ffederasiwn er mwyn sicrhau y byddai Ysgol Licswm yn aros yn ei chymuned. Ni lwyddodd yr ymdrechion i sefydlu ffederasiwn, ac felly fis Ionawr 2018, penderfynodd y Cabinet y byddai’n rhaid bwrw ymlaen â’r drefn ymgynghori statudol.
Pwysleisiodd na chafodd y canlyniad ei ragderfynu ar unrhyw adeg o’r broses, a bod y Cyngor wedi bod yn deg ac yn agored wrth ymgynghori. Roedd pob ysgol dan adolygiad yn unigryw, ac roedd unrhyw benderfyniadau’n seiliedig ar rinweddau’r achos dan sylw. Gwelwyd tystiolaeth o hynny yn y gorffennol o ran y penderfyniadau a wnaethpwyd yngl?n â darparu addysg ôl-16 yn Sir y Fflint a chreu ffederasiwn rhwng Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Mornant. Cyrhaeddwyd sawl un o’r pwyntiau sbardun ym Mholisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, ac fe gydymffurfiodd y Cyngor â’r Cod yn llwyr wrth gynnal y drefn ymgynghori.
Roedd yno bryderon gwirioneddol yngl?n â chynaladwyedd ysgolion bach yn y tymor hir yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac roedd y Cyngor am sicrhau y gallai llywodraethwyr ddal i fforddio penodi athrawon a staff cefnogi i weithio gyda’r dysgwyr yn y dosbarthiadau. Ar sail hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts na fedrai pethau aros fel yr oeddent. Gan ystyried fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r farn y dylid diogelu ysgolion bach ac ysgolion gwledig, galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi gwell eglurder yngl?n â’r polisi ar gyfer ysgolion bach a rhai gwledig, gan gynnwys diffinio ‘gwledig' ac esbonio’r sail resymegol ar gyfer dosbarthu ysgolion Sir y Fflint yn unol â’r polisi hwnnw. Gofynnodd hefyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fwriad o ran cyllido ysgolion bach a rhai gwledig, gan ystyried pwysigrwydd y polisi i’r Llywodraeth, fel y gallai Cynghorau fel Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau cynaladwyedd yn y dyfodol.
Esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod nifer y disgyblion yn y naill ysgol a’r llall yn llai na’r isafswm a bennwyd yn angenrheidiol ar gyfer ysgol fach gynaliadwy. Yn y ddwy ysgol roedd bron hanner y plant yn dod o’r tu allan i’r ardal, gan olygu bod lleoedd gwag mewn mannau eraill.
Ar y dechrau roedd pawb a fu’n rhan o gam cyntaf y drefn ymgynghori wedi gwrthod creu ffederasiwn. Daeth Licswm i ffafrio’r dewis hwnnw wedi hynny, er mwyn cadw’r ysgol yn ei chymuned, a rhoes y Cyngor sicrwydd dro ar ôl tro y byddai’n ystyried unrhyw gynnig pendant o ddifrif; bu’n siom na ddaeth y fath gynnig i’r amlwg.
Un o’r cyfleoedd mwyaf a fyddai’n deillio o uno’r ddwy ysgol ar un safle oedd medru cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r diffygion mawr yn adeilad Ysgol Brynffordd, a oedd yn y categori gwaethaf o ran ei addasrwydd.Cynigiwyd uno’r ddwy ysgol ym Mrynffordd gan mai honno oedd yr unig un o’r ddau safle a oedd yn ddigon mawr i fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu. Roedd llawer o rieni Licswm wedi crybwyll bod adeilad yr ysgol honno’n gadarn ac yn bodloni eu gofynion hwy, ond roedd yno drafferthion yn y tymor hir o ran costau trwsio a chynnal a chadw. Beth bynnag a fyddai canlyniad yr adolygiad, roedd angen buddsoddi’n sylweddol yn safle Brynffordd er mwyn bodloni anghenion y disgyblion yn fwy priodol, a chynorthwyo’r ysgol i ddarparu’r cwricwlwm.
Rhoddwyd braslun o'r ymateb i'r ymgynghoriad gan gynnwys enghreifftiau o'r rhai hynny oedd o blaid y cynnig, a’r rhai oedd yn ei erbyn. Yn ystod yr ymgynghoriad gofynnwyd am gynigion gwahanol y gellid eu gweithredu, a chafwyd ymateb fel a ganlyn:
· 25.41% yn awgrymu creu ffederasiwn
· 15.57% yn awgrymu cadw pethau fel yr oeddent
· 41.80% yn methu ag awgrymu unrhyw beth arall.
Y farn gyffredinol oedd y gallai fod yn fanteisiol mewn sawl ffordd i greu ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol o dan un arweinydd ac un drefn lywodraethu, ac roedd trefniant felly’n dod yn fwyfwy cyffredin ymysg ysgolion Sir y Fflint. Roedd y Cyngor yn dal i feddu ar y grym i greu ffederasiwn drwy orfodaeth, ond at ei gilydd roedd o’r farn y byddai’n rhaid i’r partneriaid fod yn fodlon cydweithio er mwyn i hynny lwyddo.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei fod wedi bod yn ganolwr a darparu cyngor gydol y broses fel y gellid ystyried dyfodol y ddwy ysgol yn deg ac yn gyfartal. Bu angen ystyried yr anghenion addysgol yn ogystal â buddiannau’r gymuned, yn ogystal â sicrhau y byddai'r canlyniad yn gynaliadwy at y dyfodol. Roedd Ysgol Licswm yn gwadu fod angen unrhyw gyllid sylweddol; roedd yr achos o blaid Brynffordd yn un pendant. Roedd angen i’r ddwy ysgol gydweithio i ddatblygu achos o blaid cynllun dau safle, a chynnig dull cynaliadwy o lywodraethu ac ariannu hynny, gan gynnwys cymorth gan y gymuned a rhyddid y rhieni i ddewis ysgol.
Roedd o’r farn nad oedd yr achos o blaid uno wedi’i brofi, a hynny ar sail y rhesymau a roddwyd yngl?n â lleoedd gwag/twf posibl yn y boblogaeth, digonolrwydd ystâd yr ysgol yn Licswm, gwerth am arian o ran adeiladu ysgol newydd, a chyfyngu ar y dewis o ysgolion i rieni yn y dyfodol.
I gloi, cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion canlynol:
1. Bod y Cabinet yn tynnu’r cynnig i uno’r ysgolion yn ôl;
2. Bod y Cabinet yn gofyn i Lywodraeth Cymru am fwy o amser, fel y mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ei ganiatáu;
3. Bod y Cyngor yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf pan delir y grant ar gyfer cronfa addysg y blynyddoedd cynnar, fel y gellir adnewyddu Ysgol Brynffordd;
4. Bod y Cabinet yn gwahodd y ddwy ysgol i gydweithio â'r Cyngor wrth ddatblygu ffederasiwn dau safle.
5. Bod y Cyngor yn cadw’r grym i greu ffederasiwn drwy orfodaeth pe byddai’n rhaid.
Diolchodd y Cynghorydd Thomas i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad. Roedd hi’n cytuno â’r argymhellion, yn enwedig gan ystyried mor bwysig oedd ysgolion bach mewn cymunedau lleol. Soniodd hefyd am y ffaith bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet, gan fod yr ysgolion dan sylw wedi cyrraedd sawl un o’r pwyntiau sbardun yn y Cod. Cytunodd y Cynghorydd Butler, gan ddiolch i’r Cyngor am yr holl waith a wnaethpwyd wrth geisio dod o hyd i gynnig addas arall. Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid i gymunedau dderbyn datblygiadau tai er mwyn sicrhau y byddai’r ysgolion lleol yn dal yn gynaliadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn tynnu’r cynnig i uno’r ysgolion yn ôl;
(b) Bod y Cabinet yn gofyn i Lywodraeth Cymru am fwy o amser, fel y mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ei ganiatáu;
(c) Bod y Cyngor yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf pan delir y grant ar gyfer cronfa addysg y blynyddoedd cynnar, fel y gellir adnewyddu Ysgol Brynffordd;
(ch) Bod y Cabinet yn gwahodd y ddwy ysgol i gydweithio â'r Cyngor wrth ddatblygu ffederasiwn dau safle.
(d) Bod y Cyngor yn cadw’r grym i greu ffederasiwn drwy orfodaeth pe byddai’n rhaid.