Mater - penderfyniadau

Council Tax Care Leavers Discount Scheme

26/09/2018 - Council Tax Care Leavers Discount Scheme

Derbyniwyd adroddiad ar y cynigion i ddarparu gostyngiad o hyd at 100% o dalu Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal sydd rhwng 18 a 25 mlwydd oed sy’n preswylio yn Sir y Fflint.

 

Fel yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd y Cynghorydd Christine Jones yn croesawu’r cynigion i helpu pobl ifanc yn y cyfnod o newid i fod yn oedolion ac i fyw’n annibynnol.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw mai cost amcangyfrifiedig ariannu’r cynllun fyddai tua £14K y flwyddyn ac y byddai hyd at ddeg unigolyn yn Sir y Fflint yn gymwys i gael gostyngiad, gan gynnwys rhai sy’n gadael gofal sy’n preswylio yn Sir y Fflint ond a fu dan ofal cyngor arall yn flaenorol. Os cefnogir hyn gan Aelodau, gofynnid i’r Cabinet fabwysiadu’r cynllun newydd i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2018.

 

Fel Cadeirydd y Fforwm Gwasanaethau Plant, roedd y Cynghorydd Bithell yn croesawu’r cynigion.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Carver, eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai’r polisi ar gyfer y cynllun yn ystyried gwahanol amgylchiadau a threfniadau byw.        

 

Wrth gefnogi’r cynigion, siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch yr angen am gefnogaeth barhaus i rai sy’n gadael gofal ar ôl iddynt droi’n 18 oed. Dywedodd y Prif Swyddog (Y Gwasanaethau Cymdeithasol) bod cymorth ar gael i rai sy’n gadael gofal hyd at yr adeg y maent yn 25 oed, yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Cyfeiriodd at gynlluniau i gryfhau ymhellach y cymorth i rai sy’n gadael gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn darparu adborth i’r Cabinet ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal; a

 

(b)       Bod y Cyngor yn cefnogi datblygiad cynllun Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor ar gyfer rhai sy’n Gadael Gofal, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Cabinet, gyda’r nod o ddarparu gostyngiadau o hyd at 100% i bawb sy’n gadael gofal hyd at 25 mlwydd oed.