Mater - penderfyniadau

Approval of Costs for Maes Gwern, Mold, Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Scheme

25/09/2018 - Approval of Costs for Maes Gwern, Mold Strategic Housing and Regeneration (SHARP) Scheme

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Cymeradwyo Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo camau allweddol nesaf y cynllun, a oedd yn cynnwys cynigion i ddatblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti.

 

            Dyluniwyd y cynllun arfaethedig wedi’i ar thema “pentref gardd”, gyda phwyslais ar y cysylltiadau rhwng y mannau cyhoeddus a phreifat, a chysylltiadau rhagorol i gerddwyr a beicwyr â chanol tref yr Wyddgrug.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r gymysgedd o dai a gynigiwyd yn y cynllun.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yngl?n â graddfa'r rhaglen SHARP, gan esbonio fod y Cyngor bellach wedi cwblhau 49 o dai newydd ar bum safle yng Nghei Connah, yr Wyddgrug a Choed-llai a’u bod wedi gosod i denantiaid.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad, ond gan grybwyll fod y cynllun a elwid yn Ysgol Delyn, yr Wyddgrug bellach wedi’i alw’n Llys Alexandra, ac fe nodwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti;

 

 (b)      Cymeradwyo Benthyca Darbodus hyd at £0.431 miliwn (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig o gartrefi’r Cyngor; ac

 

 (c)       Cymeradwyo defnyddio £0.270 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn rhannu ecwiti ar gyfer elfen fforddiadwy’r cynllun.