Mater - penderfyniadau
Internal Audit Annual Report
26/07/2018 - Internal Audit Annual Report
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniad yr holl waith archwilio a wnaed yn ystod 2017/18. Y farn archwilio oedd, yn gyffredinol, bod gan y Cyngor fframwaith llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheolaeth effeithiol a digonol.
Gofynnodd Sally Ellis a oedd trefnau diogelu wedi’u sefydlu i ymdrin ag effaith bosibl yr oedi sy’n deillio o archwiliadau blaenoriaeth canolig yn cael eu hamnewid gydag archwiliadau blaenoriaeth uchel yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) lle roedd problemau wedi cynyddu. Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybod bod adolygiad y DFG wedi’i ohirio o 2016/17 oherwydd rhesymau gweithredol a chadarnhaodd y byddai archwiliadau blaenoriaeth canolig sydd wedi’u trefnu yng Nghynllun Archwilio 2018/19 yn cael eu cynnal. Ar gwestiwn pellach, esboniodd effaith gadarnhaol cynnwys gwaith ymgynghorol/ymgynghoriaeth ochr yn ochr â gwaith archwilio cyffredinol.
Siaradodd y Prif Weithredwr am ei hyder yn y Rheolwr a’i thîm wrth iddynt ddarparu cydbwysedd da o gefnogaeth a her, a chroesawodd y cynnydd mewn gwaith ymgynghorol fel newid cadarnhaol sylweddol i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r farn archwilio mewnol blynyddol.