Mater - penderfyniadau
Food Service Plan 2018/19 for Flintshire County Council
11/10/2018 - Food Service Plan 2018/19 for Flintshire County Council
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad yngl?n â Chynllun Gwasanaeth Bwyd Sir y Fflint ar gyfer 2018/19, a oedd yn rhoi braslun o’r Gwasanaeth Bwyd. Roedd yn pennu’r nodau ac amcanion am y flwyddyn i ddod, a sut y cyflawnid y rheiny.
Roedd y Cynllun hefyd yn cynnwys adolygiad o berfformiad y Gwasanaeth o ran cyflawni Cynllun 2017/18. Talodd y Cynghorydd Bithell deyrnged i’r tîm am yr hyn a gyflawnodd yn ystod 2017/18.
Soniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) mor bwysig oedd y gwasanaeth a’r ymdrechion parhaus a wnaed i’w wella.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2018/19.