Mater - penderfyniadau

Welsh Government late underspend allocations

27/07/2018 - Welsh Government late underspend allocations

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar ddyraniadau tanwariant hwyr Llywodraeth Cymru. Esboniwyd bod, ym mlwyddyn ariannol 2017/18, nifer o ddyraniadau grant penodol ychwanegol wedi dod i law yn ystod misoedd ac wythnosau olaf y flwyddyn olaf, a bod atodiad un o’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r grantiau a ddaeth i law ac yn cynnwys manylion effaith a chanlyniadau’r hysbysiadau hwyr.

 

                        Gofynnwyd i’r Swyddogion wahaniaethu rhwng y cynlluniau hynny lle disgwyliwyd i gyllid ychwanegol fod ar gael ar ddiwedd y flwyddyn a’r cynlluniau hynny lle na ddisgwyliwyd y cyllid hwn.

 

                        Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y tri grant olaf yn y rhestr yn annisgwyl a bod rhai o’r rhain a oedd yn ymwneud â thrafnidiaeth yn ddisgwyliedig ond nad oedd sicrwydd ym mha flwyddyn y byddent yn cael eu dyrannu.

 

                        Esboniodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai, mewn rhai meysydd gwasanaethau stryd a thrafnidiaeth ysgol, fod cynlluniau wedi’u sefydlu fel y gellid eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru pe byddai unrhyw grantiau’n dod ar gael.

 

                        Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r bwriad bob amser oedd manteisio i’r eithaf ar bob cyllid grant ac os na lwyddwyd i wario cyllid grant erbyn diwedd y flwyddyn y byddai opsiynau eraill yn cael eu hystyried er mwyn osgoi colli dim grant.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi dyraniadau tanwariant hwyr Llywodraeth Cymru.