Mater - penderfyniadau

Budget Efficiency First Stage Tracking for the 2018/19 Council Fund Budget

27/07/2018 - Budget Efficiency First Stage Tracking for the 2018/19 Council Fund Budget

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad i’r Aelodau ar y cynnydd cynnar a wnaed ar weithredu’r arbedion a gynhwyswyd yng Nghyllideb 2018/19. Esboniodd yr heriau yr oedd y Cyngor wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf ac y rhagwelwyd arbed £7.970m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18 – cyfradd lwyddiant o 95% a oedd yn cyd-fynd â’r set dangosyddion perfformiad allweddol.

 

            Rhagwelwyd y byddai £6.182m (71%) o gyfanswm arbedion 2018/19 sef £8.777m yn cael eu dosbarthu’n risg Werdd, £2.395m (27%) yn risg Ambr, a dim ond £0.200m (2%) yn risg Goch.  

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr mai nifer fechan oedd â risg goch ac amlygodd nifer o risgiau ambr. Rhoddodd esboniad pellach yngl?n â’r cynnydd da a wnaed i leihau’r risgiau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y risg Ambr ‘Ad-drefnu Neuadd y Sir’ ac yn benodol dymchwel Camau 3 a 4. Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud bod hwn yn faes gwaith allweddol a oedd yn mynd rhagddo’n unol â’r bwriad gyda chyfran o’r gweithlu’n cael eu symud i Unity House. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd digon o gyfleusterau parcio i staff ac a fyddai’n rhaid talu. Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y ceid digon o gyfleusterau parcio ac y byddai’n rhaid talu.

 

            Cytunwyd y dylai adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno gerbron cyfarfod mis Mehefin neu fis Gorffennaf ar y symud i Ewlo, gyda’r Pwyllgor yn gwneud ymweliad safle maes o law.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman gwestiwn am y risg Ambr – ‘Gwasanaeth Gwastraff Gwyrdd’ ac a allai’r swm hwn gynyddu. Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod y nifer ofynnol o gartrefi wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth hwn ac y cafwyd ymateb da gan y cyhoedd gyda nifer o fechan o gwynion yn dod i law. Cafwyd ymchwydd dros y Pasg ac roedd y Gwasanaethau Stryd yn dal i gael ymholiadau. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill gwestiynau am y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Gwasanaethau Digidol Gwastraff Gwyrdd – a fyddai’r trigolion yn cael e-bost yngl?n â’r Rheoliadau Diogelu Data newydd. A fyddai clybiau lonydd bowlio / chwaraeon yn cael gostyngiad neu’n cael eu heithrio a gyda’r cynlluniau i uno Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint, a oedd Unity House yn addas at y diben ac roedd yn bryderus yngl?n â’r pwrs cyhoeddus.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r tri chwestiwn a chadarnhaodd y byddai Gwasanaethau Digidol Gwastraff Gwyrdd yn cydymffurfio â’r Rheoliadau newydd, ac y byddai unrhyw eithriad neu ffi ostyngol am finiau brown i glybiau yn cael eu hystyried mewn adolygiad diweddarach. O safbwynt Unity House, byddai’r lefelau defnydd yn is yn ystod cam un a dau yn Neuadd y Sir nag yn awr ar ôl cwblhau’r cyfnod pontio. Os bydd y Cynghorau’n uno i’r dyfodol, byddai Sir y Fflint mewn sefyllfa dda gydag un depo yn Alltami, byddai niferoedd y gweithlu eisoes yn isel iawn, a byddai ‘canolbwynt democratiaeth’ yn ofynnol.

 

Awgrymwyd y dylid cynghori Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd i fonitro’r incwm o wastraff gwyrdd a pharcio ceir fel rhan o’u Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 

 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed ar weithredu’r arbedion fel rhan o’r gyllideb ar gyfer 2018/19.