Mater - penderfyniadau
Revenue Consequences of Capital Expenditure
27/07/2018 - Revenue Consequences of Capital Expenditure
Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau mai nod y cyflwyniad oedd rhoi gwybodaeth am effeithiau a manteision y buddsoddiadau fel rhan o’r Rhaglen Gyfalaf a chynhwysai esiamplau ymarferol gyda’r nod o ddefnyddio’r fformat hwn ar gyfer cyflwyniadau i’r dyfodol.
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Rheolwr Cyllid Interim - Cyfalaf a Thechnegol i’r Aelodau. Esboniodd y Rheolwr Cyllid effeithiau refeniw posibl cynlluniau cyfalaf mawr gan dynnu sylw’r Aelodau at yr Adran Fuddsoddiadau yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19. Esboniwyd y costau uniongyrchol, a oedd yn cynnwys costau benthyca, costau rhedeg refeniw a chyfalaf ynghyd â’r incwm a gynhyrchir a’r manteision uniongyrchol a geid o gynlluniau o’r fath. Cafwyd hefyd rai effeithiau anuniongyrchol a oedd yn anodd eu mesur, yn eu mysg berfformiad a phrofiad ansawdd i gwsmeriaid.
Esboniodd y Prif Weithredwr y gellid bod wedi defnyddio nifer o esiamplau, ond y defnyddiwyd dau fodel ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Model 1 – sefydliad 32 gwely oedd Cartref Gofal Marleyfield a oedd hefyd yn cynnwys darpariaeth gofal dementia. Esboniwyd y manteision a’r costau uniongyrchol, gan gynnwys y potensial i gynyddu lleoliadau hunan-ariannu. Ymysg y manteision anuniongyrchol yr oedd ei bod yn rhatach darparu darpariaeth fewnol na chomisiynu lleoedd allanol.
Model 2 - roedd Canolfan Gofal Dydd Glanrafon yn sefydliad newydd sydd i gael ei adeiladu ar safle hen Ysgol Uwchradd John Summers. Ymysg y manteision a’r costau uniongyrchol yr oedd dim costau benthyca gan na fyddai’r cynllun yn cael ei ariannu drwy fenthyca darbodus, a byddai hyn yn golygu osgoi gwario £280k ar waith atgyweirio hanfodol ar y cyfleuster presennol. Ymysg y manteision anuniongyrchol yr oedd arbedion hirdymor o £1.5m a’r gallu i osgoi 3 lleoliad posibl y Tu Allan i’r Sir gan arbed £54k y flwyddyn.
Croesawodd yr Aelodau’r templed hwn a’r esiamplau a ddarparwyd o sut yr oedd hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau.
Awgrymodd y Cynghorydd Hillary McGuill, cyn gwaredu hen offer y dylid asesu i weld a ellid ei ddefnyddio at ddiben arall neu gan unrhyw glybiau. Cytunodd y Prif Weithredwr gan ddweud bod hwn yn bwynt da ac roedd yn si?r y gallai rhyw gymaint o’r offer gael ei ailddefnyddio neu’i werthu.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y cyflwyniad a oedd yn esiampl wych o sut i gyflwyno gwybodaeth gymhleth, a chytunwyd y dylid anfon nodyn o werthfawrogiad at Susie Lunt am ei chyfraniad at ddatblygu’r dull newydd hwn.
Cadarnhawyd y byddai diweddariad ar fuddsoddiadau’r Prosiectau Cyfalaf yn cael ei baratoi ar gyfer mis Gorffennaf ar sail debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyflwyniad ar Ganlyniadau Refeniw'r Gwariant Cyfalaf.
PENDERFYNWYD:
Croesawu’r cyflwyniad a defnyddio’r templed ar gyfer adroddiad pellach ar y Rhaglen Gyfalaf.