Mater - penderfyniadau
Free Childcare Offer
29/10/2018 - Childcare Offer for Wales, Flintshire
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar gyflwyniad fesul cam y ddarpariaeth gofal plant am ddim, gan nodi bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynnig Gofal Plant i Gymru a ariennir yn Sir y Fflint. Gwahoddodd Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd i gyflwyno’r adroddiad.
Adroddodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd ar y cynnydd o ran datblygu a darparu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, gan gyfeirio at y prif ystyriaethau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Martin White ei longyfarchiadau i’r swyddogion ar y gwaith ardderchog a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant fesul cam yn Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid cymeradwyo’r cynnydd a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant yn llawn yn Sir y Fflint; ac
(b) Y dylid cymeradwyo’r cynllun cyflenwi traws gwlad arfaethedig.