Mater - penderfyniadau
Safeguarding and Child Protection
29/10/2018 - Safeguarding of Children and Child Protection
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Plant a’r broses Amddiffyn Plant o fewn ffiniau’r Sir. Eglurodd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth allweddol am ystadegau a pherfformiad mewn perthynas â phlant dan fygythiad, y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu sylweddol amdanynt.
Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran Diogelu Plant, Addysg ac Ieuenctid a blaenoriaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer diogelu plant, a diogelu corfforaethol.
Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones a oedd y targedau ar gyfer adolygu plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn cael eu cyrraedd, ac ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu drwy egluro bod yr Awdurdod wedi cyflawni ei holl dargedau ar gyfer adolygu plant ar y gofrestr yn dda, yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd gwybodaeth ar gael ar oedran y plant oedd ar y rhestr amddiffyn plant, a hefyd a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng yr oedrannau a’r categorïau risg. Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod y data am oedran y plant ar gael ac y gellid ei rhannu. Dywedodd hefyd y gellid dadansoddi’r data i weld a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng oedrannau’r plant a’r categorïau risg.
Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am ddiogelu plant o amgylch eiddo’r ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mewn ymateb, cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu at waith y Panel Diogelu Corfforaethol, gan nodi bod gan y Gwasanaethau Addysg a’r Heddlu gynrychiolwyr ar y Panel ac esbonio’r gwaith a wneir mewn partneriaeth o ran meysydd sydd o bryder i bawb. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y dylid gofyn i’r Heddlu fonitro ‘mannau problemus’ lle mae pryder, er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylw am y diffyg gwasanaethau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint, gan ddweud fod hynny wedi creu angen cymdeithasol ‘enbyd’.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth mewn perthynas â Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018; a
(b) Rhoi sylw dyledus i’r gwaith a wneir mewn partneriaeth ar draws y meysydd portffolio i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.