Mater - penderfyniadau

Education Attainment of Looked After Children

29/10/2018 - Education Attainment of Looked After Children in Flintshire

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad ar Gyrhaeddiad Addysgol Blynyddol Plant sy'n Derbyn Gofal.   Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu cyrhaeddiad academaidd Plant sy'n Derbyn Gofal Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-2017.  Roedd y data’n ymwneud â’r garfan o Blant sy'n Derbyn Gofal a nodwyd yn unol â’r diffiniad canlynol: ‘Plentyn o oed ysgol statudol, h.y. rhwng 5 a 16 oed, oedd yn derbyn gofal yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 am o leiaf flwyddyn cyn 31 Awst 2017'.  Eglurodd yr Uwch-reolwr na chafodd y plant oedd yn derbyn gofal dan Seibiant Byr/Gofal Seibiant eu cynnwys yn y dadansoddiad ystadegol er diben yr adroddiad hwn.  Cafodd y data ei rannu’n bedwar gr?p oedran oedd yn cyfateb i Gyfnodau Allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol.  Adroddodd yr Uwch-reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Holodd Mrs Lynne Bartlett a gafodd cyrhaeddiad addysgol plant oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ei fonitro.  Dywedodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y gellid casglu’r wybodaeth hon ar ôl i’r data gael ei ddiffinio. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am y nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal mewn Addysg oedd yn gadael yr ysgol heb gymwysterau, a holodd beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant ar yr amrywiol fentrau sy’n cael eu defnyddio i ymgysylltu â phobl ifanc i’w hannog i barhau â’u haddysg.  Gwnaeth sylw am yr heriau a’r anawsterau emosiynol y mae rhai pobl ifanc wedi’u profi yn eu blynyddoedd cynnar a allai hefyd fod wedi cael effaith ar eu perfformiad drwy gydol eu haddysg.   Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y gellid gwahodd plant oedd yn derbyn gofal sydd wedi llwyddo drwy sefydliadau addysgol i siarad â phlant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u dadrithio gan addysg am un rheswm neu’i gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am iechyd meddwl a’r prinder posib o seicolegwyr yng Ngogledd Cymru, dywedodd y Cadeirydd y byddai Marilyn Wells, Rheolwr Gwasanaeth CAMHS ac Andrew Gralton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 14 Mehefin 2018, i drafod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon am bolisi derbyn ysgolion, gan ddweud bod rhai rhieni’n cael trafferth cofrestru eu plant mewn ysgol leol.  Gwnaeth sylw hefyd am y nifer cynyddol o rieni sy'n dewis rhoi addysg i'w plentyn yn y cartref.  Mewn ymateb i’r pryderon, eglurodd y Cynghorydd Ian Roberts bod yna amryw o resymau pam nad oedd rhai plant yn gallu mynychu dewis eu rhieni o ysgol.  Dywedodd hefyd nad oedd yna unrhyw ffiniau o ran derbyn disgyblion i ysgolion.  Adroddodd y Cynghorydd Roberts y gwelwyd cynnydd cenedlaethol yn nifer y rhieni sy’n dewis rhoi addysg i’w plentyn yn y cartref.  Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant bod Llywodraeth Cymru wrthi’n edrych ar y duedd gynyddol o ran addysg yn y cartref, a’r rhesymau pam fod rhieni’n dewis y gwasanaeth hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylw ar yr anawsterau emosiynol a chorfforol y mae rhai pobl ifanc wedi’u hwynebu yn eu magwraeth, gan ddweud bod eu cyflawniadau’n ganmoladwy o ganlyniad i’r problemau y maen nhw wedi’u goresgyn.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y cynghorydd Ellis am y gefnogaeth sydd ar gael i Blant sy'n Derbyn Gofal yn yr ysgol, eglurodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant bod systemau cymorth cadarn ar gael mewn ysgolion, a chyfeiriodd at swydd athro dynodedig Plant sy'n Derbyn Gofal mewn ysgolion a’r gwasanaethau cwnsela ehangach sydd ar gael.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Williams at yr amrediad o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i bobl ifanc fel llwybr amgen i addysg uwch a chyfleoedd gyrfa.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw am y mater o fwlio pobl ifanc drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan ofyn sut roedd ysgolion yn mynd i'r afael â hyn.   Dywedodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant bod yr ysgolion yn cymryd y mater o ddifrif, gan siarad am y gwaith a wneir i ddarparu arweiniad a chymorth i ysgolion ar sut i ddelio â hyn.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno adroddiad ar Dderbyniadau i Ysgolion yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylai'r Aelodau ymroi i fod yn Rhieni Corfforaethol i Blant sy'n Derbyn Gofal, gan hyrwyddo ymwybyddiaeth a herio darpariaeth o fewn sefydliadau addysgol Sir y Fflint;

 

(b)       Y dylai’r Aelodau fynd ati i annog yr holl staff addysgol i hyrwyddo lles addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal o fewn sefydliadau Sir y Fflint ar ‘lefel ysgol gyfan’; ac

 

(c)        Y dylid cyflwyno adroddiad ar Dderbyniadau i Ysgolion yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn y dyfodol.