Mater - penderfyniadau

Budget Consultation Process

09/07/2018 - Budget Consultation Process

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd argymhellion o gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 yn dilyn adolygiad o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.

 

Roedd yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ystod yr ymgynghoriad wedi’i ddatblygu i gyfres o ofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion.  Gellir addasu siart lif Proses y Gyllideb Fesul Cam, gan ddefnyddio dull 2018/19, i’w defnyddio yn y dyfodol ac i helpu i ddangos cymhlethdodau'r broes a gofynion ymgynghori.

 

Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, dosbarthodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig gyda’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod hwnnw.

 

Cyfeiriad yn yr Adroddiad

Diwygiad

17

Gweddarlledu cyfarfod cyllideb Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  Adnoddau Corfforaethol.

19

Adroddiad ar ddefnydd galw i mewn i’w gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.

24

Newid y gair ‘dyfarniad’ am ‘penderfyniad’.

1.05

Brawddeg olaf y paragraff cyntaf o eiriad a awgrymwyd i gynnwys y geiriau ‘neu holi cynigion'.

1.06

Paragraff newydd i gydnabod y cyfraniadau a wnaed i’r adolygiad gan nifer o Aelodau.

 

Cytunodd yr Aelodau ar y penderfyniadau diwygiedig i gymeradwyo’r adroddiad diwygiedig a’r geiriad i’w cynnwys yn adran 16 y Cyfansoddiad.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Mackie, eglurwyd y byddai gofyniad 19 yn cael ei dynnu o’r adroddiad gan y byddai defnydd galw i mewn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylw ar gynwysoldeb yr ymgynghoriad ar broses y gyllideb a'r cynnydd o ran y gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ofyniad 18 ar gasgliad y cynigion a oedd wedi bod trwy broses y gyllideb a gofynnodd ‘oni bai bod gwybodaeth newydd yn dod i’r amlwg’ ei fod yn cael ei fewnosod i ystyried unrhyw newid. O ran yr angen am gyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o gamau adrodd rhwng pwyllgorau a chyfeiriodd at y protocol gwaith a allai gael ei ddatblygu.  Nodwyd pwysigrwydd galw i mewn a byddai angen trafodaeth bellach ar hyn.  Mewn ymateb i sylwadau pellach, roedd trosolwg o’r gyllideb gyfan yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a fyddai’n ystyried adroddiad ar yr Offeryn Asesu Integredig. Byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am ddealltwriaeth glir o ganlyniadau penderfyniadau am y gyllideb.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Jones i weddarlledu pob cyfarfod pwyllgor gydag effaith ar drafodaethau o ran y gyllideb, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyfyngiadau ar yr offer gweddarlledu. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r cytundeb i weddarlledu cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei ymestyn i gyfarfodydd eraill y Pwyllgor a oedd yn cael eu cynnal fel rhan o broses y gyllideb fesul cam, p’run ai oedd yr holl Aelodau yn cael eu gwahodd ai peidio.  Byddai gofyniad 19 yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn, gan nodi'r ‘bydd’ y cyfarfod cyllideb blynyddol yn cael ei we ddarlledu (yn hytrach na ‘gallai’).

 

Mynegodd y Cynghorydd Heesom bryder hefyd yngl?n â gofyniad 18 ar gasgliad y cynigion a dywedodd na ddylid gwahardd trafodaeth bellach a fyddai’n rhwystro’r broses ddemocrataidd. Teimlai’n sicr fod pryderon am rannu gwybodaeth yn cael sylw yn ystod yr eitem nesaf ar y rhaglen.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod gofyniad 18 yn berthnasol i gynigion lle'r oedd gwybodaeth lawn wedi’i rhannu, a oedd felly yn galluogi i’r Cyngor wneud penderfyniad er mwyn dod â’r drafodaeth ar yr eitemau hynny i ben.  Er i hyn ganiatáu ar gyfer cynllunio a gweithredu, nid oedd yn atal cynigion newydd neu ychwanegol rhag cael eu codi.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Woolley o ran cymhariaeth rhwng gofynion 16 a 22, eglurodd y Prif Weithredwr y bwriad i sicrhau bod ymholiadau gan Aelodau yn agored yn ystod y camau cynnar er mwyn caniatáu ar gyfer amserlen y gyllideb.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Peers eglurder o ran cyfranogiad gan y Pwyllgor  Trosolwg a Chraffu ar ôl pob cam o broses y gyllideb. Dywedodd y Prif Weithredwr, yn ychwanegol i Weithdai Aelodau, ymgynghorwyd â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Gam 1 y cynigion yn eu meysydd unigol ynghyd â rhai elfennau yng Ngham 2. Roedd trafodaethau yn ystod Cam 3 y cynigion yn fwy cymhleth oherwydd amseriad Setliad Terfynol Llywodraeth Leol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd modd i’r broses adlewyrchu cyfranogiad ‘posib’ Trosolwg a Chraffu i Gam 3 y cynigion.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod y cynigion, ar y pwynt hwnnw, yn annhebygol o gynnwys materion portffolio dan gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y cam terfynol hwn.

 

Wrth grynhoi, cydnabyddodd y Cynghorydd Aaron Shotton y pryderon yngl?n â gofyniad 19 ar ddefnydd galw i mewn ond roedd yn fodlon y byddai hyn destun trafodaeth bellach gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndirol yngl?n â bwriad gofyniad 19 a’r goblygiadau ar broses y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Proses y Gyllideb Fesul Cam fel y nodir yn yr atodiad diwygiedig i’r adroddiad i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei gymeradwyo at ddibenion Ymgynghori ar y Gyllideb; a

 

 (b)      Bod adran 16 y Cyfansoddiad yn cael ei newid i’r geiriad a awgrymir yn yr atodiad newydd, gyda’r geiriad diwygiedig ar gyfer Gofyniad 19 ar weddarllediad cyfarfodydd.