Mater - penderfyniadau
Medium Term Financial Strategy - forecast 2019/20
12/07/2018 - Medium Term Financial Strategy - forecast 2019/20
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) – Rhagolwg 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod yr adroddiad Cabinet oedd wedi’i atodi yn darparu’r trosolwg manwl cyntaf o’r rhagolwg ariannol ar gyfer 2019/20, gyda gwaith pellach ar y rhagolygon hyd at 2021/22 i ddilyn. Adroddodd ar y prif ystyriaethau y manylwyd yn eu cylch yn yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod y bwlch posibl mewn cyllid o £10.6m ar gyfer 2019/20 yn parhau i fod yn her, a chyfeiriodd at yr opsiynau cyfyngedig ar gyfer mynd i’r afael â’r bwlch hwn. Cyfeiriodd at y dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon a dywedodd y byddai adroddiad llawn ar effaith modelu tâl yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mehefin. Dywedodd fod angen annog trafodaeth o ddifrif ar lefel genedlaethol ynghylch cyllid ar gyfer Addysg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at gostau gofal cartref ar gyfer cleifion sy’n derfynol wael, a gofynodd faint o ddefnyddwyr gwasanaeth a effeithiwyd. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n mynd ar drywydd y wybodaeth hon gyda’r Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig Oedolion Arweiniol.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Patrick Heesom ar effaith y dyfarniad cyflog athrawon a’r angen i wneud sylwadau’n gynnar, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at yr ymrwymiad gan benaethiaid a chyrff llywodraethu. Dywedodd fod trafodaethau o ddifrif yn parhau. Gwnaed sylwadau hefyd gan undebau athrawon sy’n ceisio cyfleoedd i ddechrau lobïo. Roedd yn cydnabod fod Addysg yn faes pwysau cenedlaethol allweddol.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers bod diffyg manylion yn yr adroddiad ynghylch y gofyniad o ran gwariant a’r angen i’w adolygu. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr angen am fanylion ynghylch y gwariant sy’n cael ei ddyrannu i bortffolios.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod monitro canlyniadau effaith newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ar breswylwyr Sir y Fflint, ac ar y cymunedau tlotaf yn enwedig, yn bwysig. Gofynnodd p’un a oedd asesiadau effaith yn cael eu gwneud. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai asesiad effaith yn ymarfer defnyddiol ac eglurodd bod eitem ar y model asesu effaith integredig a’i ddefnydd wedi’i chynnwys yn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor.
Wrth grynhoi’r drafodaeth, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd p’un a oedd y Pwyllgor yn dymuno codi ei bryderon ynghylch effaith bosibl y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar y cymunedau tlotaf yn Sir y Fflint. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am gael cofnodi ei fod wedi atal ei bleidlais.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor am hysbysu’r Cabinet ei fod wedi nodi Adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) – Rhagolwg 2019/20 a’i fod yn codi pryderon penodol ynghylch ei effaith bosibl ar y cymunedau tlotaf yn Sir y Fflint.