Mater - penderfyniadau

Theatr Clwyd Board of Governors

09/07/2018 - Theatr Clwyd Revised Board of Governors Model

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethwyr newydd, a oedd yn cynnwys saith Aelod etholedig a chwe phenodiad allanol, cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cabinet.

 

Diolchodd i Arweinwyr y Grwpiau am eu cydweithrediad wrth enwebu dau aelod etholedig ar gyfer y ddwy swydd wag, i wasanaethu ochr yn ochr â phum aelod etholedig a oedd wedi dewis aros yn rhan o’r Bwrdd.  Byddai’r aelodaeth lawn, gan gynnwys y chwe aelod cyfetholedig allanol gyda sgiliau priodol a oedd wedi’u recriwtio trwy'r broses, yn cael ei hadrodd i’r Cabinet.

 

Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a Chyfarwyddwyr Artistig a Gweithredol y Theatr am eu gwaith i gryfhau’r model busnes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynigion ar gyfer Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo a’u hargymell i’r Cabinet.