Mater - penderfyniadau
Constitutional Matters: Committees
09/07/2018 - Constitutional Matters: Committees
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.
(A) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio.
Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd
Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)
Pwyllgor Trwyddedu
Pwyllgor Cynllunio
Pwyllgor Safonau
Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01
(B) Penderfyniad ar faint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.
(C) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo. Roedd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel y nodwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
(D) Cydbwysedd Gwleidyddol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’i diwygiwyd.
Roedd cyfanswm o 157 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws yr holl Bwyllgorau yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau a dangoswyd hawl pob gr?p i seddi ym mharagraff 1.12 yr adroddiad. Gan na fu unrhyw newid o ran meintiau'r grwpiau, atodwyd y cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol presennol i’w hystyried fel un o sawl datrysiad posibl.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfyngiadau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio ar wardiau aml-aelod fel y nodwyd yn y ddeddfwriaeth a'r mecanwaith a gytunwyd gan y Cyngor yn gyntaf oll i ddatrys yr enwebiadau hyn drwy drafodaethau rhwng Arweinwyr y Grwpiau. Os nad oedd modd cyflawni hyn, y cam nesaf oedd i'r swyddog priodol dderbyn yr enwebiad cyntaf a dderbyniwyd. Cynigodd y Cynghorydd Peers welliant fod unrhyw enwebiad yn cael ei asesu gan y Prif Swyddog i ddewis ymgeisydd yn seiliedig ar ei sgiliau, ac os oedd y ddau ymgeisydd yn cael eu hystyried yn dderbyniol, bod y penderfyniad yn seiliedig ar y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad lleol olaf.
Mynegodd y Prif Weithredwr bryder yngl?n â chyfranogiad awgrymedig Prif Swyddogion yn y broses hon, a defnydd canlyniadau pleidleisio etholiadol at bwrpas gwahanol nad oedd wedi’i weld o’r blaen.
Rhannwyd y pryderon hyn gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn cofio ffyrdd llawer mwy traddodiadol o ddatrys y mater o enwebiadau gan wardiau aml-aelod ac fe awgrymodd arferion yn ystod y Cyfarfod Blynyddol blaenorol, megis bwrw coelbren neu daflu ceiniog, a oedd yn cael eu defnyddio’n aml i ddatrys sefyllfa pan fo dau ymgeisydd yn gyfartal mewn etholiad.
Wrth ddwyn y drafodaeth flaenorol i gof, cynigodd y Cynghorydd Aaron Shotton y byddai bwrw coelbren yn ddull llawer tecach na derbyn yr enwebiad cyntaf. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Eglurwyd, pe bai'n cael ei gymeradwyo, y byddai hyn yn cael ei nodi yn y Cyfansoddiad ac yn yr achos cyntaf, byddai penderfyniad yn cael ei geisio drwy gytundeb gan Arweinwyr y Grwpiau. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid dyrannu’r seddi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol (a’r rheolau ar aelodaeth o’r Pwyllgor Cynllunio); a
(b) Dylid diwygio’r Cyfansoddiad felly os yw dau Aelod o Ward Aml – Aelod yn cael eu henwebu i’r Pwyllgor Cynllunio, dylid dyrannu’r sedd:
· Yn yr achos cyntaf, drwy gytundeb rhwng y 2 Arweinydd Gr?p unigol;
· Os na fydd modd dod i gytundeb, bydd rhaid i’r Prif Swyddog ddewis o’r enwebiadau i benderfynu pa Gynghorydd fydd yn ennill y sedd.
(E) Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau. Roedd tabl ym mharagraff 1.14 yr adroddiad yn amlinellu pa gorff oedd yn penodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y canlynol, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attidge.
- Penodi’r Cynghorydd Dave Hughes yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd;
- Penodi’r Cynghorydd Rita Jones yn Gadeirydd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
- Penodi’r Cynghorydd Sharps yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu; a
- Penodi’r Cynghorydd Wisinger yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.
Fel Arweinydd y Gr?p Cynghrair Annibynnol, sef ail gr?p mwyaf y Cyngor, cynigodd y Cynghorydd Peers welliant i alluogi i’w gr?p gael rhan decach o ddyraniadau swyddi Cadeiryddion ar bwyllgorau. Cynigodd y dylid penodi’r Cynghorydd Woolley yn Gadeirydd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Trwyddedu. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Dolphin. O'i roi i’r bleidlais, collwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bithel, a chafodd ei gymeradwyo.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet. Dyrannwyd swyddi Cadeiryddion i’r grwpiau a oedd a lle ar y Cabinet yn gyntaf ac roedd yr hawl yn cael ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf. Cafodd y swyddi Cadeiryddion a oedd yn weddill eu dyrannu i grwpiau heb seddi ar y Cabinet, gan dalgrynnu i fyny i’r rhif llawn agosaf.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y canlynol, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attidge.
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gr?p i Ddewis Cadeirydd
Cymuned a Menter Llafur
Addysg ac Ieuenctid Llafur
Adnoddau Corfforaethol Ceidwadwyr
Yr Amgylchedd Annibynwyr Newydd
Newid Sefydliadol Y Gynghrair Annibynnol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Annibynnol
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, darparodd y Prif Swyddog eglurhad ar y ddeddfwriaeth i sicrhau hawl deg o ran y swyddi cadeiryddion a ddyrannir i grwpiau gwleidyddion heb swyddi Gweithredol, fel yr adlewyrchir yn atodiad yr adroddiad.
Galwodd y Cynghorydd Chris Dolphin am degwch ar draws y Cyngor a chynigodd welliant bod Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd yn cael ei ddyrannu i Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a oedd o’r farn y dylid dyrannu’r swydd rhwng y ddau gr?p gwleidyddol lleiaf bob yn ail flwyddyn. O'i roi i’r bleidlais, collwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a chafodd ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Penodi Cadeirydd y Pwyllgorau canlynol (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):
· Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd – y Cynghorydd Dave Hughes
· Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Rita Johnson
· Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Sharps
· Pwyllgor Cynllunio – y Cynghorydd Wisinger
(b) Bod y grwpiau canlynol yn Cadeirio'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellir:
Cymuned a Menter - Gr?p Llafur
Addysg ac Ieuenctid - Gr?p Llafur
Adnoddau Corfforaethol - Gr?p y Ceidwadwyr
Yr Amgylchedd - Gr?p yr Annibynwyr Newydd
Newid Sefydliadol - Gr?p y Gynghrair Annibynnol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Gr?p Annibynnol
(F) Swyddogaethau Dewis Lleol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyngor gytuno ar ran o’r fath o’r Cynllun Dirprwyo gan fod y Cyngor wedi penderfynu ei fod yn fater i’r Cyngor gytuno arno. Roedd hyn yn ymwneud â dewis lleol o swyddogaethau y gellir eu penderfynu naill ai gan y Cyngor neu'r Cabinet ac / neu swyddogion dynodedig. Cafodd tabl o Swyddogaethau Dewis Lleol ei gynnwys yn Rhan 3, Adran A, Tabl 3 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Bithell y dylid cadarnhau’r Materion Dewis Lleol presennol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Dunbar.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Swyddogaethau Dewis Lleol presennol fel yr amlinellir yn y Cyfansoddiad.
(G) Enwebu i Gyrff Mewnol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen yn cynnwys 7 Aelod. Nid oedd hwn yn Bwyllgor Sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr y Grwpiau. Argymhellwyd bod cyfansoddiad y Pwyllgor yn parhau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau.
(H) Pwyllgor Safonau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am gyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau a oedd disgwyl i’r Aelodau eu nodi.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Bod cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau yn cael eu nodi.
(I) Penodiadau i Gyrff Allanol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod aelodau wedi’u penodi i Gyrff Allanol ar gyfer tymor llawn y Cyngor yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2017, yn amodol ar unrhyw newid a gytunwyd arno gan y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn nodi bod yr unigolion a enwebir i Gyrff Allanol wedi’u penodi ar gyfer tymor llawn y Cyngor a ph?er y Prif Weithredwr i amrywio’r enwebiadau hynny (mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau).