Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy - Forecast 2019/20

05/06/2018 - Medium Term Financial Strategy - Forecast 2019/20

Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig – Rhagolwg 2019/20, a ddarparodd y trosolwg manwl cyntaf o’r rhagolwg ariannol ar gyfer 2019/20.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle croesawyd ac y gwerthfawrogwyd rhagolwg cynnar o’r gyllideb ar gyfer 2019/20.  Gwnaed sylw ar sut y gallai cynigion effeithio ar grwpiau o bobl, pan edrychwyd ar atebion cyllideb ar gyfer gwasanaethau.  Gan fod y broses gyllideb yn dechrau’n fuan, byddai hyn yn galluogi bod unrhyw oblygiadau'n cael eu hystyried.  Ychwanegodd fod adnoddau o Gyllid Allanol Cyfun (AEF) a Threth y Cyngor wedi’u dangos ar yr un lefel â 2018/19 ar y cam hwn, ar gyfer dibenion cynllunio cymharol.

 

Roedd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyfansoddiad yn hwyrach ymlaen yr wythnos honno ar broses y gyllideb, a’r opsiynau posibl ar gyfer adrodd.

 

Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at effeithiau ar y rhagolwg o’r gyllideb, a fanylwyd arno’n llawn yn yr adroddiad. Y meysydd oedd: defnyddio cronfeydd wrth gefn a gollwyd; costau gweithlu; gofynion gofal cymdeithasol; costau ysgol; a chorfforaethol/chwyddiant.  Arweiniodd hyn at fwlch yn y gyllideb a ragwelwyd o £10.6m. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Attridge y pwysigrwydd o gyfarfodydd brys gydag Aelodau Cynulliad (ACau) ac Aelodau Seneddol (ASau) i dynnu sylw at y pwysau a wynebai’r Cyngor.  Teimlodd eu bod nhw angen arwain ar gyfer y Cyngor ar y lobïo a fyddai’n ofynnol.  Cefnogodd Aelodau sylwadau’r Cynghorydd Attridge, gan ychwanegu, er croesawyd grantiau cyllid cyfalaf, byddai’n haws i Gynghorau gynllunio cyllidebau os oedd arian ar gael ar y cyfle cynharaf.  Gwnaed sylw hefyd ar bwysau ychwanegol a osodwyd ar Gynghorau nad oedd yn cael eu hariannu, fel y Mesur Anghenion Ychwanegol, y dylid eu hariannu’n genedlaethol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar effaith dyfarniad cyflog athrawon nad oedd wedi’i gynnwys yn y rhagolwg, gan mai barn y sector oedd y dylai fod yn bwysau cost a ariennir yn genedlaethol.  Ychwanegodd os oedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn cefnogi cynnydd bach mewn AEF a’r pwysau gofal cymdeithasol dan arweiniad y farchnad, a phwysau cost dethol eraill, gallai’r Cyngor fod yn ddau draean o’r ffordd i gau bwlch y gyllideb.  O ran y gweithlu, dywedodd fod yna wydnwch cyfyngedig mewn sawl maes gwasanaeth.  Fodd bynnag, roedd yn falch o gael adrodd fod gan y Cyngor un o’r cyfraddau isaf o lefelau salwch yng Nghymru, a oedd o ganlyniad i ymroddiad staff, i raddau helaeth.

 

Daeth y Cynghorydd Shotton i’r casgliad y gallai Aelodau gymryd nerth o'r ffaith bod proses y gyllideb yn dechrau'n gynt, a oedd yn rhoi'r cyfle a'r amser i weithio gyda phob Aelod o'r Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD:

           

Bod y rhagolwg a ddiweddarwyd yn cael ei fabwysiadu fel sail i’r cynllunio cychwynnol.