Mater - penderfyniadau

Adoption of 2018/19 Business Rates High Street Rate Relief scheme

05/06/2018 - Adoption of 2018/19 Business Rates High Street Rate Relief scheme

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Mabwysiadu Cyfraddau Busnes 2018/19, Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr, a amlinellodd gynllun Llywodraeth Cymru (LlC) a oedd wedi’i ddylunio i ddarparu rhyddhad ardrethi dros dro i fanwerthwyr stryd fawr.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) fod cymhwyster y cynllun â chefnogaeth LlC yn seiliedig ar system dwy haen, gan roi rhyddhad o hyd at £750 i fusnesau manwerthu stryd fawr, gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 a oedd wedi gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd ardrethi busnes o ganlyniad i ailwerthusiad cenedlaethol 2017.  Roedd hefyd yn darparu rhyddhad o hyd at £250 ar gyfer busnesau manwerthu stryd fawr llai, gyda gwerthoedd ardrethol o hyd at £12,000.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r cynllun i leihau’r effaith o ailwerthusiad 2017 ar gyfer rhai busnesau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu’r cynllun grant Llywodraeth Cymru 2018/19 ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr yn unol â’r darpariaethau yn adran 46 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

 

(b)       Cymeradwyo’r dyfarniadau awtomatig, heb ffurflenni cais, i’r busnesau hynny sy’n gymwys, y gellir eu nodi’n hawdd drwy gofnodi Ardrethi Busnes; a

 

(c)        Bod dyfarniadau i unrhyw fusnesau sy’n weddill a all fod yn gymwys yn dilyn ffurflen gais ddilys yn cael eu cymeradwyo.