Mater - penderfyniadau
County Hall Demolition, Relocation and Master Planning – Business Case Development
14/05/2018 - County Hall Demolition, Relocation and Master Planning – Business Case Development
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Datblygu Achos Busnes Dymchwel, Symud a Chynllun Mawr Neuadd y Sir.
Rhoddodd yr adroddiad manwl wybodaeth am Neuadd y Sir ac Unity House, Ewlo, ailddatblygu gweddill campws Neuadd y Sir, Theatr Clwyd ac ymgysylltu â’r gweithlu. Amlinellwyd manylion llawn pob elfen yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) mai’r nod oedd sicrhau bod Unity House yn cael ei breswylio erbyn diwedd y flwyddyn. O ran nifer y lleoedd parcio ceir, roedd gwaith yn mynd rhagddo ar gynyddu’r ardal llawr caled er mwyn cynyddu nifer y lleoedd. O ran yr effaith ar dref yr Wyddgrug, esboniodd y byddai craidd gweinyddol y Cyngor yn aros yn Neuadd y Sir a byddai Neuadd Llewynegrin yn aros hefyd.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod cynaliadwyedd y Theatr yn bwysig i gynnal bywiogrwydd y dref. Gallai Neuadd Llewynegrin gael ei hystyried am ddefnydd amryfal ac roedd Theatr Clwyd hefyd yn ystyried rhagor o weithgareddau masnachol. Gallai fod cyfle hefyd am adeilad gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r defnydd o’r swm ariannol a drafodwyd wrth i’r brydles ddirwyn i ben fel rhan o’r taliad dadfeiliadau diamod;
(b) Nodi’r dyraniad cyllid yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor i ddymchwel camau 3 a 4 Neuadd y Sir pan ddaw derbynebau cyfalaf digonol ar gael;
(c) Rhoi cymeradwyaeth i symud ymlaen penodiad partner datblygu i ailddatblygu campws Neuadd y Sir, gydag adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cabinet wrth i’r broses hon wneud cynnydd; a
(d) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Newid Trefniadol) a’r Prif Swyddog (Llywodraethiant) trwy ymgynghori â’r Aelod Cabinet ar gyfer Datblygu Economaidd i gwblhau penodiad contractwr, a enwir yn yr atodiad cyfrinachol, ar gyfer y dyluniad a datblygiad a’r gwaith adeiladu yn Theatr Clwyd yn unol â’r adroddiad hwn ac yn amodol ar fod yn fodlon bod y camau penodol angenrheidiol ac adnabyddedig yn yr adroddiad yn fodlon cyn cwblhau’r broses penodi a chaffael.