Mater - penderfyniadau
Public Sector Internal Audit Standards
18/06/2018 - Public Sector Internal Audit Standards
Cyflwynodd y Prif Archwilydd ganlyniadau’r asesiad blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd canlyniad yr hunanasesiad mewnol ar gyfer 2017/18 a’r asesiad allanol ar gyfer 2016/17 yn dynodi cydymffurfedd gyffredinol. Yr unig achos o fethu a chydymffurfio oedd yr angen i gynnal ymarfer mapio sicrwydd, a oedd i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2019. Roedd camau eraill i fynd i’r afael ag achosion o gydymffurfio’n rhannol wedi’u nodi yn y cynllun gweithredu, gan gynnwys adolygiad o’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a fyddai’n dod ger bron y Pwyllgor yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at hunanasesiad y Pwyllgor, a oedd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Gan fod aelodau newydd ar y Pwyllgor, awgrymodd y gallai gweithdy hanner diwrnod helpu aelodau i gwblhau’r holiadur ac y byddai’n rhoi cyfle i adolygu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol hefyd. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.