Mater - penderfyniadau
Diversity and Equality Policy
27/02/2019 - Diversity and Equality Policy
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb diwygiedig i’w ystyried a chynnig sylwadau arno cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet. Diweddarwyd y polisi, a gymeradwywyd yn wreiddiol yn 2012, i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gwaith.
Er nad oedd yn ofyniad mandadol, roedd cyhoeddi’r polisi’n cael ei ystyried yn arfer da i ddangos ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu gweithlu cynhwysol a gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl. Tynnwyd sylw at enghreifftiau o waith a wnaed i gydymffurfio â’r polisi a gwahanol fathau o wahaniaethu.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd aelodau i gynnwys cyfeiriad at God Ymddygiad Swyddogion (yn ogystal â Chod Ymddygiad Aelodau) o fewn y polisi. Mewn ymateb i sylwadau am hyfforddiant ‘gloywi’ parhaus ar gyfer y gweithlu, roedd uwch swyddogion a rheolwyr yn ystyried gwahanol ffyrdd o gynyddu cyfraddau cwblhau ar y modiwlau e-ddysgu.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi fersiwn diweddaraf y Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo; a
(b) Chefnogi’r camau a gymerir i wella cyfraddau cwblhau ar gyfer y modiwlau e-ddysgu.