Mater - penderfyniadau
Draft Welsh Language Promotion Strategy
05/06/2018 - Draft Welsh Language Promotion Strategy
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft, a gyflwynodd Strategaeth ddrafft o bum mlynedd i Sir y Fflint, i gael cymeradwyaeth cyn ymgynghori'n ehangach.
Nododd y Strategaeth sut y gallai'r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned, fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau.
Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu fod y Strategaeth wedi’i chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle cafodd ei chefnogi a’i chymeradwyo.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar yr eglurhad a geisiwyd yn y cyfarfod hwnnw ar ddata yn nhabl 3 yr atodiad, ac eglurodd y cafwyd yr wybodaeth o ddata’r cyfrifiad. Derbyniwyd y byddai strwythur cwestiynau’r cyfrifiad yn cael eu hadolygu. Ychwanegodd fod Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ar Strategaeth y Cyngor, gyda’r Chyngor yn cael ei barchu am yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni.
Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylw fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint yn uwch na sawl awdurdod arall ar draws Cymru, a oedd yn galonogol. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod staff derbynfa'r Cyngor yn gwisgo bathodyn i ddangos a oeddent yn siarad Cymraeg, ac fe anogwyd pobl i sgwrsio yn Gymraeg.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft ar gyfer ymgynghori arni;
(b) Y byddai’r broses ymgynghori a’r amserlen yn cael ei chymeradwyo; a
(c) Bod fersiwn terfynol y cynllun yn cael ei argymell i'w fabwysiadu yng Ngorffennaf 2018.