Mater - penderfyniadau

Pay Policy Statement for 2018/19

05/06/2018 - Pay Policy Statement for 2018/19

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19. Eglurodd bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl yn crynhoi ymagwedd y sefydliad tuag at gyflog a thâl ac yn gosod hyn o fewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd wedi’i ddiweddaru er mwyn rhoi golwg gynhwysfawr o ymagwedd y Cyngor tuag at dâl ei weithlu.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog fod y datganiad eleni yn gyson â’r blaenorol  ac, er nad oedd newid i’r egwyddorion arfaethedig nac ychwaith i'r ymagwedd at dâl, roedd rhai adrannau ychwanegol, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Tynnodd sylw at adrannau 10 ac 11 yn yr adroddiad a oedd wedi cael eu hail-ysgrifennu ac yn cynnwys mwy o fanylion ar rôl y Cyrff Trafod Cenedlaethol a Dyfarniadau Tâl a'r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r effaith hyd yma ac wrth symud ymlaen.  Rhoddodd ragor o fanylion am Adran 11 a’r trafodaethau parhaus ar lefel genedlaethol mewn perthynas â’r dyfarniad cyflog ar gyfer 2018, a’r newidiadau arfaethedig i’r golofn gyflog o 2019 ymlaen. Dywedodd y cafwyd cynnig ffurfiol gan y cyflogwyr cenedlaethol ym mis Rhagfyr a gafodd ei wrthod gan undebau llafur a bod yr undebau llafur wrthi’n cynnal pleidlais ymysg eu haelodau. Disgwyliwyd canlyniad y bleidlais ym mis Mawrth, ac o ganlyniad efallai y byddai newid pellach i’r polisi tâl.  Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai adroddiad llawn, yn manylu ar holl oblygiadau ariannol ac fel arall unrhyw gytundeb o’r fath a wneir, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn cyn gynted â phosibl. Wrth ddod i gasgliad, manylodd ar beth fyddai goblygiadau’r dyfarniad cyflog, pe bai’n cael ei dderbyn, ar yr holl bwyntiau colofn gyflog staff a’r effaith dros ddwy flynedd. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn ddiweddar wedi cwblhau ei Archwiliad Cyflogau Cyfartal llawn cyntaf ers dechrau’r Cytundeb Statws Sengl, a rhannwyd hyn gyda’r undebau llafur a oedd yn fodlon gyda'r canlyniad.  Dywedodd nad oedd gan y Cyngor unrhyw achos presennol neu hanesyddol o dâl anghyfartal heb ei ddatrys a allai fod yn wahaniaethol.

 

Wrth gyfeirio at dudalen 146 yr adroddiad yngl?n â thaliadau bonws a thâl ar sail perfformiad, holodd y Cynghorydd Mike Peers a ddylid rhoi ystyriaeth i a ddylai gweithwyr gael gwerthusiadau blynyddol yn gysylltiedig â thâl ar sail perfformiad i fod yn gyson â’r trefniadau ar gyfer Prif Swyddogion.  Gofynnodd a oedd modd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ystyried hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y cyfeiriad i’r talebau gofal plant ar dudalen 152 yr adroddiad, a dywedodd y byddai’r talebau hyn yn cael eu disodli gan gynllun gofal plant di-dreth newydd, a gefnogir gan lywodraeth y DU o fis Ebrill 2018, a dywedodd bod rhaid cynnwys hyn yn y Datganiad ar Bolisïau Tâl.

 

Mewn ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor yn gweithredu taliadau bonws. Wrth drafod y pwnc o dâl ar sail perfformiad, dywedodd hefyd nad oedd y Cyngor yn gweithredu taliadau chwyddo yn ogystal â pherfformiad cyflog, fodd bynnag, roedd hawl i ddatblygiad cyflog cynyddrannol yn flynyddol sef y system roedd y Cyngor yn ei defnyddio.Nid oedd y system werthuso yn gysylltiedig â’r system gynyddrannol ar wahân i Brif Swyddogion.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Richard Jones swm y cyllid a oedd wedi’i neilltuo gan y Cyngor ar gyfer codiadau cyflog a’r effaith dros ddwy flynedd.   Gwnaeth yr Uwch Reolwr sylw ar yr angen am fodelu manylach a dywedodd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor pan oedd y gwaith hwn wedi’i gwblhau.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge a cafodd ei eilio.  Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Datganiad Ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad; a

 

 (b)      Bod y Datganiad Ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19 yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu y bydd y cynllun gofal plant di-dreth newydd, a gefnogir gan lywodraeth y DU,  yn disodli’r talebau gofal plant presennol o fis Ebrill 2018.