Mater - penderfyniadau

Reporting on Investment in County Towns

12/07/2018 - Reporting on Investment in County Towns

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar fuddsoddiad yn nhrefi Sirol Sir y Fflint a sut y gellir datblygu hyn. Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod yr adroddiad yn mynd i’r afael â materion sy’n codi o Rybudd o Gynnig yn y Cyngor Sir yn Rhagfyr 2017, a byddai’r adroddiad sy’n adrodd ar rai mathau o wariant yn rhoi dadansoddiad o’r gwariant fesul tref. Roedd yr adroddiad yn awgrymu sail ar gyfer diffiniad o ‘dref’ i’r pwrpas hwn yn unig ac roedd yn nodi meysydd gwariant o fewn rhaglen gyfalaf 2018/19 y byddid yn eu cynnwys yn y broses adrodd wrth egluro rhai o’r anawsterau o ran cael y wybodaeth. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder nad oedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani, a phwysleisiodd bwysigrwydd nodi’r gwariant ar bob tref a’r angen i sicrhau bod pob tref yn cael ei thrin yn gyfartal. Gofynnodd am fanylion ar y gwariant y pen er mwyn deall sut yr oedd y cyllid yn cael ei gyfansymio rhwng trefi a lle’r oedd yn cael ei wario.           

 

Roedd y Cynghorydd Aaron Shotton yn cefnogi’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Jones ac awgrymodd y dylid cyfeirio’r mater i’w ystyried gan y Cabinet hefyd. Rhoddodd sicrwydd mai drafft cyntaf o waith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ydyw, ac y byddai rhagor o fanylion yn dilyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson nad oedd yr adroddiad yn darparu diffiniad o ‘teg’ ac ‘angen’ a nododd fod angen edrych ar gymunedau ar sail ‘angen’ a’r hyn a ddiffiniwyd fel ‘dyraniad teg’ i ddiwallu’r angen hwnnw.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod angen gwneud mwy o waith yng nghyswllt diffinio’r ‘trefi sirol’ y cyfeiriwyd atynt yn y rhybudd o gynnig. Eglurodd nad oedd un diffiniad penodol a dywedodd y dylai’r adroddiad ddangos yn lle mae’r Cyngor yn gwario arian a pham. Cytunwyd y byddai gweithdy pellach i Aelodau ar y Bid Twf yn cael ei drefnu, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor sydd i’w gynnal ym mis Mehefin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y frawddeg gyntaf ym mharagraff         1.02 o’r adroddiad ac awgrymodd y dylid defnyddio’r gair ‘accurate’ yn lle ‘easily’.                                         

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r sylwadau a wnaed ac yn disgwyl am yr adroddiad pellach.