Mater - penderfyniadau

Draft Housing Revenue Account (HRA) Revenue Budget 2018/19 and 30 year Business Plan

10/05/2018 - Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 and 30 year Business Plan

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) y cynigion terfynol ar gyfer Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig mewn rhent a gytunwyd gan y Cabinet.  Cylchredwyd copïau o'r argymhellion llawn gan y Cabinet.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Asedau Tai gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:

 

·         Cynllun busnes 30 mlynedd – y Cyfrif Refeniw Tai

·         Canlyniadau 2017/18

o   Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

o   Rhaglen adeiladu tai y cyngor

o   Perfformiad

·         Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19

·         Incwm arall

·         Taliadau gwasanaeth 2018/19

·         Cynigion arbedion effeithlonrwydd y / pwysau ariannol cost y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19

 

Cynigiwyd argymhellion y Cabinet gan y Cynghorydd Attridge, a eglurodd fod y cynnydd arfaethedig o 3% mewn rhent ar gyfer 2018 / 19 - sy’n is na’r lefel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru – oherwydd gwaith ail fodelu gan y Cyngor i sefydlu lefel mwy fforddiadwy ar gyfer tenantiaid.

 

Wrth eilio’r cynnig, croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton fuddsoddiad ychwanegol rhaglen adeiladu tai y Cyngor a chyfeiriodd at bryderon am y nifer gynyddol o unigolion sy’n cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol a’r effaith ar ôl-ddyledion rhent.

 

Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas am bwysigrwydd sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio contractwyr.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, diolchodd y Cynghorydd Dunbar i’r Prif Swyddog a siaradodd o blaid argymhellion y Cyngor sy’n darparu buddsoddiad pellach yn rhaglen adeiladu tai y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at anghysondeb yn y system gynllunio oedd yn golygu nad oedd rhai datblygwyr yn gwneud y mwyaf o ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Dywedodd y Cynghorydd Butler bod swyddogion wedi adrodd yr aed i'r afael a'r mater hwn ar draws Cymru.  Aeth ymlaen i ddisgrifio rhaglen adeiladu tai y Cyngor fel "balchder Cymru".

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr a’i thîm am ailddatblygu’r Fflint a gosod systemau ysgeintio d?r mewn fflatiau aml lawr.  Talodd deyrnged i'r newid mewn diwylliant swyddogion i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion.

 

Wrth grynhoi, diolchodd y Cynghorydd Attridge i Aelodau am eu sylwadau cadarnhaol a byddai’n gweithredu ar y rheiny yngl?n â’r defnydd o gontractwyr.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes fel yr amlinellir yn yr atodiadau;

 

 (b)      Cymeradwyo’r opsiwn o osod cynnydd o 3% mewn rhent ar gyfer 2018/19 (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai), gyda rhenti targed yn berthnasol i denantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi rhent Llywodraeth Cymru a fyddai'n gosod cynnydd o 4.5% (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai);

 

 (c)       Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 ceiniog yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a

 

 (d)      Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2018/19 fel y nodwyd yn Atodiad C.