Mater - penderfyniadau
Welfare Reform Update
30/01/2019 - Welfare Reform Update
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Diweddariad ar Ddiwygio Lles a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru a chefnogi aelwydydd.
Roedd yr adroddiad hefyd yn archwilio effaith mwy hirdymor a rhai o’r ystyriaethau gofynnol er mwyn paratoi a chynllunio ymateb i’r effeithiau hynny nawr ac yn y dyfodol.
Roedd manylion llawn y gwasanaethau a gynigiwyd gan y Cyngor wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, gan gynnwys y gefnogaeth i gwsmeriaid ar gymorth cynhwysol, a chefnogaeth gyda chyllidebu personol.
Ar 1 Hydref 2018, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddiad ar eu gwefan am eu penderfyniad na fyddai’n ariannu Awdurdodau Lleol i ddarparu Cymorth Cynhwysol (Cyllidebu Personol a chymorth Digidol â Chefnogaeth) ond byddai’n ariannu Cyngor ar Bopeth i ddarparu’r gwasanaeth. Daeth y cyhoeddiad hwnnw heb unrhyw ymgynghoriad o flaen llaw. Roedd y goblygiadau ar gyfer Sir y Fflint yn cael eu trafod a byddai manylion pellach yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mynegodd Cynghorydd Thomas ei phryder am Gredyd Cynhwysol, gan ddarparu enghraifft o achos yn ei ward. Roedd yn gobeithio y byddai cefnogaeth ddigonol yn parhau pan fyddai’r gwasanaeth yn symud i Gyngor ar Bopeth. Roedd y Cynghorwyr Bithell a Jones yn cytuno â’r sylwadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli’r effaith mae Diwygiadau Lles yn ei chael a bydd yn parhau i’w chael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint; a
(b) Bod y newidiadau i drefniadau ariannu grant ar gyfer Cymorth Cynhwysol fel a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Ganolog ar 1 Hydref 2018 yn cael eu nodi a bod y risgiau yn y dyfodol i’r Cyngor a allai fod o ganlyniad i’r newidiadau hynny yn cael eu hystyried.