Mater - penderfyniadau
Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report
25/05/2018 - Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18. Cynghorodd bod yr adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 ar gyfer y blaenoriaethau ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gyda 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Mae’r dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).
Adroddodd y Prif Swyddog ar y dangosydd perfformiad ‘nifer cyfartalog o ddyddiau calendr wedi’u cymryd i gyflawni Grant DFG’ a oedd yn dangos statws coch ar gyfer y perfformiad presennol yn erbyn targed a'r risg mawr canlynol i'r Pwyllgor fel y manylir yn yr adroddiad.
Blaenoriaeth:Cyngor Cefnogol - bydd lefelau dyled yn codi os na fydd tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor.
Cynghorodd y Prif Swyddog fod y cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yn y Cynllun wedi’u cynnwys yn atodiadau’r adroddiad.
Yn ystod trafodaeth fe ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd yngl?n â DFG ac addasiadau wedi’u gwneud i eiddo’r Cyngor. Cynghorodd y swyddogion fod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu yn erbyn y risg o eiddo gael ei werthu yn y tymor byr yn dilyn gwneud addasiadau eang.
PENDERFYNWYD
Nodi’r adroddiad.