Mater - penderfyniadau

Certification of grants and returns 2016/17

18/06/2018 - Certification of Grants and Returns 2016/17

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Corfforaethol) adroddiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar ardystio hawliadau grantiau ar gyfer y flwyddyn a ddeuai i ben ar 31 Mawrth 2017.

 

Roedd yr adroddiad wedi cydnabod gwelliannau mewn sawl maes, yn enwedig yn nifer y grantiau a gyflwynwyd cyn y dyddiad cau, gan nodi bod lle i wella ymhellach.  Roedd yr addasiad net o £3,120 i hawliadau yn rhan fechan o gyfanswm y grantiau o £137 miliwn ac nid oedd unrhyw golled ariannol i'r Cyngor, ac roedd yr un addasiad sylweddol o £250,000 ar y Gronfa Cludiant Lleol o ganlyniad i broblem ag amseru.  Roedd gwaith ar fynd i fynd i’r afael â’r argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru ac roedd swyddogion a oedd ynghlwm â’r broses yn cael eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau penodol.

 

Wrth grynhoi’r pwyntiau allweddol, siaradodd Mr Mike Whiteley o SAC yngl?n ag effaith materion cymhwyso yr adroddwyd amdanynt yn y blynyddoedd ariannol blaenorol ac roedd yn falch o nodi y dylai trefniadau a roddwyd ar waith gan swyddogion gynorthwyo'r broses grantiau ar gyfer 2017/18.  Rhoddodd eglurhad ar yr addasiad unigol o £250,000 a oedd wedi arwain at gynnydd o £3,120 o gyllid a oedd yn daladwy i’r Cyngor, a’r rheswm dros y cynnydd yn y ffi gyffredinol am y gwaith grantiau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Gan gydnabod y pwysau ar hyn o bryd, byddai cydweithwyr o SAC yn ymgysylltu â swyddogion y Cyngor bob chwarter i helpu i ddod o hyd i welliannau eraill yn y prosesau.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylwadau yngl?n â’r gwaith ychwanegol ar ardystio’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau ar ôl i GHA Coaches fynd i’r wal.  Mewn perthynas â’r addasiad ar gyfer y Gronfa Cludiant Lleol, dywedodd bod gallu’r Cyngor i gynllunio wedi’i effeithio o ganlyniad i gael gwybod yn hwyr bod cyllid ychwanegol ar gael ac fe anogodd gydweithwyr SAC i drafod hyn gyda Llywodraeth Cymru fel ymarfer cynllunio ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr Ardystiad Hawliadau Grantiau ar gyfer 2016/17.