Mater - penderfyniadau

Changes to statutory deadlines for the publication of Local Authority Statement of Accounts

09/04/2018 - Changes to statutory deadlines for the publication of Local Authority Statement of Accounts

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad yn rhoi manylion y paratoadau gan y Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru i fodloni cam cyntaf y dyddiadau cau cynharach a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn berthnasol i gyhoeddi cyfrifon awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Cyflwynodd y dyddiadau cau cynharach ar gyfer 2018/19 ymlaen heriau sylweddol i bob cyngor ac archwilydd, a byddent yn elwa ar gynllunio cynnar. Argymhellwyd felly fod yr amserlen i gymeradwyo cyfrifon 2017/18 yn cael ei symud ymlaen i’r wythnos yn dechrau ar 10 Medi 2018. Er mwyn cynorthwyo â’r dull hwn, gwnaed nifer o newidiadau i arferion gwaith a chynhaliwyd cyfarfodydd cyson gyda chydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr er mai swyddogaeth Cyngor yn Sir y Fflint oedd cymeradwyo’r cyfrifon terfynol, gellid rhoi ystyriaeth i’r dyfodol i fabwysiadu’r dull a gymerwyd gan nifer fawr o gynghorau eraill i ddirprwyo’r  cyfrifoldeb hwn i’r Pwyllgor Archwilio. O fynd ar drywydd hyn, byddai angen cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid y dull arfaethedig ar gyfer cyfrifon 2017/18 ond roedd ganddo bryderon am yr effaith ar amser y swyddogion. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r un gwaith yn cael ei wneud o fewn cyfnod cywasgedig ac y byddai angen i’r effaith ar berfformiad ar dasgau eraill gael ei monitro. Roedd dewisiadau mewnol ac allanol yn cael eu harchwilio i ddynodi adnoddau ychwanegol yng ngoleuni absenoldeb y Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol ac roedd hyn yn cael ei ystyried yn risg gweithredol.

 

Cododd y Cynghorydd Johnson bryderon am y goblygiadau democrataidd sy’n codi o amserlen tymor nesaf y Cyngor lle byddai angen i’r Pwyllgor Archwilio newydd ei ffurfio fodloni ei gyfrifoldebau statudol ar y cyfrifon. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai penodiad cynnar aelodaeth newydd y Cyngor gael ei flaenoriaethu ar ôl yr etholiad ac y gallai amrywiad gael ei wneud i’r amserlen gyfrifon ar yr adeg honno er mwyn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd fel y bo’n ofynnol.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid nad oedd y rheoliadau ar ddyddiadau cau cynharach wedi’u cymeradwyo eto gan Lywodraeth Cymru a chyfeiriodd at natur y Datganiad Cyfrifon fel dogfen ôl-syllol mewn fformat penodedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r newidiadau i gyfarfodydd mis Medi’r Pwyllgor Archwilio a’r Cyngor i gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon, fel yr esbonnir ym mharagraff 1.08.